Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bydd y rhan fwyaf o'r darllenwyr yn gwybod yn dda am y rhai diweddarach; a chan y ceir hanes pur gyflawn am y rhan fwyaf ohonynt hwy yn "Y Drysorfa" a chylchgronau eraill, teimlwn bod eu hanes a'u gwasanaeth wedi eu diogelu, ac nad oedd angen gwneuthur rhagor yn y gyfrol hon nag a wneuthum,—crybwyll eu henwau yn unig. Ymhen tair blynedd eto, sef yn y flwyddyn 1932, bydd y Cyfundeb yn Liverpool yn dathlu ei drydydd Jiwbili. Hyderaf, os caniateir imi fywyd ac iechyd, y bydd yr holl Hanes wedi ei gasglu ynghyd a'i groniclo yn weddol gyflawn erbyn hynny. Ni ellir llai na theimlo mai Hanes ydyw sy'n ennyn diolchgarwch dwfn am y gorffennol, ac sydd hefyd yn atgyfnerthiad ffydd ar gyfer y dyfodol.

Mai, 1929.

J.H.M.