Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfod i Ddinbych ac i Barc y Twll i chwalu nyth Daniel, druan-ddyn, a'i deulu tlawd. Ond yn Bangor pwy a osododd Rhagluniaeth fanwl y Nef i gyd-drafaelu ag ef ond fy ffyddlon gyfaill, Mr. James Roberts, Currier, o'r dref hon. Ac wrth drafaelu ar y cerbyd aed i son am Daniel Jones, Parc y Twll; a threfnodd y nefoedd i'r ymddiddan dueddu meddwl Mr. Horne i beidio distrywio poor Daniel er ei fod wedi llefaru yn arw wrthyf fi. Heddyw eto yr Hwn y mae calonnau brenhinoedd a phawb yn ei law a'i tueddodd i'm harbed yn y diwedd, a'm cyfaill anwyl Mr. James Roberts, yn offeryn. O na foliannem yr Arglwydd! Fy enaid, bendithia yr Arglwydd!!! Nid i ni, nid i ni, ond i'th enw dy Hun, O Arglwydd, dod ogoniant. . . . Dychwel, O fy enaid, i'th orffwysfa; canys yr Arglwydd a fu dda wrthyt!"

Wedi symud o Barc y Twll aeth i dŷ yn Lover's Lane, Dinbych. Bu farw yng Ngwrecsam, yn nhŷ ei fab, y Parch. John Jones, ar yr 21ain Ionawr, 1840, yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn yr Eglwys Wen, ger Dinbych.

Gŵr hynod oedd Daniel Jones, a chredwn na chafodd y lle a deilynga yn hanes Methodistiaeth Liverpool. Dechreuodd wasanaethu yr Achos pan yn ieuanc iawn, a byddai llawer o'r gofal yn disgyn arno. Oherwydd bod Thomas Hughes a Thomas Edwards mor fynych oddicartref, syrthiai arolygiaeth yr eglwys yn bennaf arno ef. Pregethai yn aml, er prysurdeb ei fasnach. Yn ei dy ef y lletyai yr holl bregethwyr a ymwelent â'r dref y blynyddoedd hynny. Cadwai restr o aelodau tlodion a chlaf yr eglwys, ac ymwelai â hwy yn gyson, ac â'r aelodau eraill. Cyflawnai waith bugail, a hynny gyda ffyddlondeb rhyfeddol i wr yn ei amgylchiadau ef. Awgrymai Dr. Owen Thomas yng nghyfarfod Canmlwyddiant yr Achos nad oedd neb yn holl hanes Methodistiaeth y ddinas a roddodd wasanaeth mwy gwerthfawr na'r gŵr syml, caredig, cymwynasgar a dwfn grefyddol Daniel Jones. Tybed a ellid cyfeirio at unrhyw un a gafodd ran helaethach o brofedigaethau bywyd nag ef; na neb a'i dioddefodd mewn ysbryd rhagorach.

Fel pregethwr ni feddai, mwy na'i dad, ar ddawn boblogaidd, ond yr oedd ei bregethau yn wastad yn llawn sylwedd, a dylanwad ei gymeriad yn cyflawni diffygion ei ddawn. Loes