Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymdogion, Mr. a Mrs. Edward Jones. Ond er cael un waredigaeth, yr oedd "tonnau dychrynllyd " eraill "yn bygwth ei suddo." Erlidid ef gan gwmni o Liverpool yr oedd o dan ddyled drom iddynt, ac yr oedd nifer o ofynnwyr eraill yn bygwth yn ddibaid ei werthu i fyny.

Nid oedd ei amgylchiadau wedi gwella dim erbyn y flwyddyn ddilynol yn hytrach yr oeddynt wedi gwaethygu. Daeth "y gwyntoedd ystormus i guro ar ei babell fregys "o gyfeiriadau eraill. Ar y 10fed Ebrill, 1831, ysgrifennai: "Yr wythnos ddiwaetha oedd un o'r wythnosau mwyaf tamhestlog o'm holl oes ond Ebrill 1822. Dydd Mercher daeth Sheriff's Officer o Ruthin ac arrestiodd fy merch Jane i fyned a hi i Garchar Ruthin, oherwydd £40 o ddyled i Tomlins(?), Liverpool, ac oni buasai Mr. James Roberts, Currier, fynd yn feichiau tan yr wythnos nesaf am ei hymddangosiad, buasai raid iddi fod yno heddyw. Wedi hyn anfonodd Mr. Ellis Jones am danaf i ddywedyd ei fod ef wedi penderfynu mynnu cael ei arian, ac y byddai iddo syrthio arnom yn ddioed. Mae fy ngwraig yn Liverpool heb wybod dim o hyn oll. "Thou God seest me."

"Gorph. 24, 1831: Nos Iau diwaetha daeth fy merch Jane adre o garchar Ruthin, wedi bod yno 14 Sabboth,—102 o ddyddiau. Mae gennyf achos mawr i fod yn ddiolchgar i'r Arglwydd. Wythnos ddychrynllyd o damhestlog oedd yr wythnos ddiwaetha, hurricane ofnadwy o amrywiol fannau...

Adroddiadau cyffelyb o'i brofedigaethau a geir yn y blynyddoedd 1832 ac 1833. Dyfynnwyd digon eisoes i ddangos mor dra helbulus ei gyflwr ydoedd, ac mor ddiysgog ei ffydd yn "Nuw Daniel," fel yr hoffai sôn am Dduw. Rhoddwn yn unig y dyfyniad hwn ymhellach:

"1832, Chwefror 1af: Ebenezer! Haleliwiah! Wele fi yma eto. Yr oeddwn yn meddwl yn sicr y buaswn wedi fy nhroi oddiyma, os nad yn wir wedi fy rhoi yn y carchar. A thro rhyfedd iawn yn wir o drefniad yr Arglwydd ydyw yr achos fy mod yma heno, yn lle wedi fy nhroi ymaith. Fel hyn y bu, ac y mae yn werth i'w gadw mewn coffadwriaeth tra y byddwyf byw. Yr oedd arnom £54 i Messrs. Horne & Hornby, Tithebarn Street, Liverpool. Ac yr oedd Mr. Horne ar ei aith o Sir Fôn yn dychwelyd i Liverpool, ond wedi penderfynu