Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond gwarth a gwaradwydd, dinystr a distryw. Lediodd Thomas Jones (Sir Drefaldwyn) y pennill canlynol:

Aros, lesu, yn y rhyfel,
Fy enaid yn lluddedig sydd;
Ti biau ddrysu fy ngelynion,
Ti bia'r enw, ti bia'r dydd;
Yn dy ddawn, unig cawn,
Fuddugoliaeth werthfawr iawn."

Ac ar ymyl y ddalen dywaid: "Heb dalu i Samuel Edwards, Esq., ers blwyddyn." Y gŵr hwn, gellir casglu oddiwrth gyfeiriadau eraill ato, oedd ei feistr tir.

Hydref 11 John Roberts. . . yn dyfod i Park y Twll a'r newydd fod Samuel Edwards, Esq., yn mynd i anfon beiliaid arnom i'n gwerthu i fyny. JEHOVAH REIGNETH."

"Hydref 20: Wele execution gan David Jones yn erbyn fy mherson a'm eiddo. Wedi cael Sabboth hyfryd gyda fy mab John y Sabboth diwaetha.... Dyfod adre nos Lun: fy merched Elizabeth a Mair yn cael eu diarddel o'r eglwys am fynd i edrych ar ddawnsio yn Chirk Castle; a heddiw siomedigaeth anrhaethol i mi, yn disgwyl ugeiniau o bunnau o Liverpool i Samuel Edwards, Esq.; yn lle hynny, dim yn dyfod. O beth a wnaf, beth a wnaf, beth a wnaf. Pa le mae dy hen drugareddau, Arglwydd? O dywydd chwerw iawn. Yn wir, Arglwydd, cofia fi."

Hydref 24: Yr wythnos ddiwaetha, wythnos y profedigaethau mawrion iawn i poor Dan." Hydref 28: Awr i mi i'w chofio tra fwyf yn y byd. Samuel Edwards, Esq., fel llew rhuadwy. O lesu mawr, ai difatter genyt ein colli? Arglwydd, cadw, darfu am danom. Iesu, trugarha, Fab Dafydd....

Hydref 29: Dydd llawn o brofedigaethau i poor Dan. David Jones... anfon beili i Bark y Twll heddyw." "Hydref 31: "EBENEZER! HALLELUJAH! HALLELUJAH ! HALLELUJAH !"

Y mae'r hanes a edrydd o dan y dyddiad hwn yn rhy faith i'w roddi yma; daeth gwaredigaeth iddo drwy garedigrwydd