Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drachefn. Erbyn 1820 gwelir ei fod wedi gadael ei fasnachdy yn James Street, ac yn byw mewn tŷ preifat yn Commutation Row, a disgrifir ef y pryd hwnnw fel Daniel Jones, Book-keeper. Awgryma hyn ddarfod iddo geisio dilyn cwrs arall mewn bywyd, ac mai aflwyddiannus a fu yn hynny drachefn.

Trist ryfeddol ydyw hanes Daniel Jones o hyn ymlaen. Erlidiai ei ofynnwyr ar ei ôl yn ddidrugaredd. Ni wyddom ddim am yr amgylchiadau, ond y mae sicrwydd am y ffaith, ddarfod ei daflu i garchar gan un ohonynt yn nechrau'r flwyddyn 1822, a bu yno dros bedwar mis. Mewn hen gof-lyfr o'i eiddo, sydd mewn rhan yn Ddyddlyfr, ac mewn rhan yn cynnwys nodiadau o bregethau a wrandawsai, dywaid, o dan y dyddiad "1831, Mawrth 2: Naw mlynedd i ddoe daeth y dammestl fawr i'm cyfarfod a'm gyrrodd yn garcharor i gastell Lancaster 18 Sabboth (sylwer fel y cyfrifai ef amser, yn ôl nifer y Sabothau!) a heddyw wele damhestloedd dychrynllyd o'm cwmpas. O Arglwydd, cadw; darfu am danaf. Ti elli droi cysgod angeu yn foreu ddydd, a chyfodi o'r pridd tomlyd ac o'r pydew erchyll, a rhoddi nhraed ar y graig."[1]

Tebygol yw mai wedi ei ollwng yn rhydd o'r carchar y torrodd Daniel Jones ei gysylltiad â Liverpool, ac y symudodd i fyw i hen gartref ei wraig, Parc y Twll, gerllaw Dinbych. Yno, yn amaethu y tyddyn, y bu am y deuddeng mlynedd nesaf o'i oes, sef hyd 1834. Ond er ymneilltuo ohono i'r wlad, yr oedd ei brofedigaethau yn parhau, os nad yn amlhau. Yr oedd ei ofynnwyr fel gwaed-gwn ar ei ôl; ac amlwg yw na fu ei ymgais i ffarmio yn llwyddiant. Suddodd yn ddyfnach, ddyfnach, i ddyled. Methai â chyfarfod y rhent, ac ymddygodd y tirfeddiannwr yn galed tuag ato. Y Dyddlyfr cyntaf a welsom am y blynyddoedd y bu ym Mharc y Twll ydyw yr un y dyfynnwyd ohono uchod, am 1830-31. Ar y 10fed Hydref, 1830, ysgrifennai: "Wele un o'r Sabbothau mwyaf profedigaethus i poor Dan a welodd er Mawrth, 1822; rhodio mewn tywyllwch ac heb lewyrch iddo yn ffaelu gweddio, dim ond gruddfan, heb weled dim o fy mlaen o ran fy amgylchiadau tymhorol

  1. Wheldon MS. 10.-Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor.