Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidogaeth a gwasanaethu yr eglwysi. Y bwriad hwn hefyd yn bennaf a barodd iddo gymryd partner yn ei fasnach. Anodd yw bod yn sicr pa bryd y digwyddodd yr anffawd a adroddwyd uchod. Dywaid y Parch. Henry Hughes, Bryncir,[1] mai yn 1812 y bu, ac ymddengys amryw ffeithiau fel pe'n cadarnhau hynny. Y mae ar gael, fodd bynnag, lythyr a ysgrifennodd Daniel Jones at ei dad bum mlynedd cyn hynny, yr 22ain o Ebrill, 1807, sy'n adrodd ei bryder am ddiogelwch y llong. Dichon nad at yr un amgylchiad y cyfeirir, neu bod ganddynt long newydd ac ychwanegol erbyn 1812. Credwn bod y llythyr hwn yn werth dyfynnu ohono pe ond i ddangos yr ysbryd tawel a'i meddiannai yn wyneb ei brofedigaethau: Erbyn dyfod adre (o Manchester) dyma lythyr fod y Clothier, yn ol dim sydd yn amlwg, wedi colli, heb insurio dim arni. Yr oeddwn i wedi blino talu insurance ar fy rhan fy hun ers talm heb gael dim oddiwrthi. Cymaint o hanes sydd gennym am dani yw bod 15 o lestri wedi hwylio o Plymouth tu a Rochfort yn Chwefror diwaetha, a bod y cwbl wedi dyfod yn ol ers talm ond y Clothier, heb un hanes am dani hi. Mae'n rhaid ei bod wedi colli neu gael ei chwythu i ryw le pell iawn. . . Neithiwr darfu i'r Banker ac y byddwn i a'r cyffredin yn y dref hon yn cadw fy nhipin ceiniog gydag ef, ei grogi ei hunan. Pa fodd mae ei amgylchiadau ni ellir gwybod etto; yr oedd i mi gwrs o arian gydag ef. Yn fy erbyn i mae hyn oll, medd un hen wr duwiol; gobeithio mai er lles i mi mae hyn oll. Yr Arglwydd a roddodd ac a gymerodd ymaith. Bendigedig, etc."

Fel yr adroddwyd, wedi dyrysu o'i amgylchiadau, ataliwyd ef o bregethu, a hefyd ataliwyd ef o'r Cymundeb. Adferwyd iddo freintiau yr eglwys yn fuan, ond ni adferwyd ef i fod yn bregethwr, er y deallwn i gryn sylw gael ei roddi i'w achos yn y Gymdeithasfa, ac amlygid cydymdeimlad lled gyffredinol ag ef, oddieithr gan rai hen frodyr a ddalient i gredu mai "cosb am chwenych llwyddiant bydol yn ormodol" ydoedd yr ymweliad hwn. Bu'n brwydro'n galed yn erbyn amgylchiadau am yn agos i ddeng mlynedd, ond methodd ag ymunioni

  1. Y Drysorfa, 1902, t.d. 408.