Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd gryfder; gorchfygodd yn y frwydr; enillodd y dydd; cadwodd y ffydd yn ddilwgr; cadwodd ei ddillad yn ddihalog; cadwodd ei goron; gorffennodd ei yrfa yn fuddugoliaethus; gobeithiodd pan oedd yn marw; cyrhaeddodd y nôd; cafodd fynediad helaeth i mewn i dragwyddol deyrnas ei Arglwydd a'i Iachawdwr. Atebodd ei grefydd ei dibenion goreu, mewn bywyd, ac yn angeu, er llesad a chysur iddo ei hun, er buddioldeb i eraill, ac er gogoniant i Dduw."[1]

Gosodwyd tabled marmor ar y mur y tu ôl i'r pulpud yng nghapel Pall Mall, er cof am y gwas da a'r gweinidog ffyddlawn hwn i Grist.

Fel y crybwyllwyd yn y bennod flaenorol, daeth Daniel Jones i'r dref yn y flwyddyn 1789, ac ef ar y pryd yn bymtheg oed. Daeth yno i ymofyn gwaith, a dengys ei lythyrau iddo fod ar y cyntaf yn aflwyddiannus. Dychwelodd i Gymru yn 1790, a daeth yn ôl drachefn yn 1791. Cyflogwyd ef y waith hon gan frethynnwr a dilladwr, Thomas Moore, a gadwai un o'r siopau mwyaf oedd yn y dref yr adeg honno, yn No. 3 Brunswick Street. Daeth y meistr i hoffi y gŵr ieuanc yn fawr, ac ymhen rhyw dair blynedd, ac yntau ond prin ugain oed, cymerodd ef i bartneriaeth, ac yn lled fuan wedi hynny, trosglwyddodd yr holl fusnes i'w ddwylo. Cyn hir symudodd y fasnach i No. 1 James Street, wrth ochr hen eglwys St. George, a safai lle gwelir heddiw Gofadail y Frenhines. Victoria. Cyfrifid ei fasnachdy yn un o brif siopau y dref; a daeth Daniel Jones yn fuan yn berchen cyfoeth mawr. Oherwydd cynnydd ei fasnach cymerodd bartner, gŵr a brofodd yn ŵr "ofer, a gwastraffus, a phen-galed." Prynasant long, ac ar ei mordaith gyntaf o Liverpool i Portugal, yn amser y rhyfel â Ffrainc, cymerwyd hi a'i llwyth gwerthfawr gan y Ffrancod. 'Collwyd y cyfan, ac aeth yr hyn oll a feddai Daniel Jones o'i afael ar unwaith: collodd ei gwbl mewn un dydd." [2]

Adroddwyd ddarfod iddo ddechrau pregethu yn y flwyddyn 1796, a bwriadai ymneilltuo o'i fasnach er mwyn ymroddi i'r

  1. Ceir darlun o Thomas Hughes yng nghyfrol y Parch. W. Pritchard, Pentraeth, John Elias a'i Oes." Dywedir bod Mrs. William Pritchard yn un o ddisgynyddion yr hen weinidog.
  2. Cofiant y Parch. John Jones, Gwrecsam (ei fab), t.d. 2.