Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Tri swllt y dydd." "Faint ydach chi yn roi i'r lleill?" "Pedwar swllt." "Onid pedwar swllt ydyw cyflog y dref i weithiwr medrus? Onid ydyw efe yn werth hynny? O leiaf yr oedd yn werth hynny i mi, ac mae o yn werth hynny i chwithau hefyd. Peidiwch ag atal cyflog cyfiawn i weithiwr; onide nid eich lle chwi yw bod yn ein Seiat ni. A thalwch iddo yr hyn ydach wedi ei atal oddiarno cyn hyn." Bu gorfod i'r gŵr ufuddhau neu ddioddef ei ddiarddel.

Digwyddodd unwaith pan oedd brawd yn cael ei ddisgyblu, i frawd arall godi gan ddywedyd bod y blaenoriaid yn gwneud cam â'r gŵr. "O, ai ie?" ebe Thomas Hughes; "cawn weld yn y man." Aed ymlaen i drin yr achos. Cafwyd y gwr yn euog, a diarddelwyd ef. Cododd Thomas Hughes ar ei draed eilwaith. "Yn awr, hwn a hwn, chwi a ddywedasoch fod y blaenoriaid yn gwneud cam a'r brawd a ddiarddelwyd. Rhaid trin eich mater chwi yn awr, am ddwyn camdystiolaeth yn erbyn penaethiaid yr eglwys." Triniwyd ei fater yn y fan, a diarddelwyd yntau y noswaith honno!

Mwynhaodd Thomas Hughes iechyd da hyd ddiwedd ei oes. Y Saboth, Hydref 12fed, 1828, cafodd oerfel, ond mynnai ddyfod i'r cyfarfod eglwysig nos Lun, yn Rose Place. Nos Fawrth yr oedd yno drachefn, yn gwrando ar John Elias; nos Fercher dechreuodd yr oedfa iddo yng nghapel Bedford Street, a dyna'r waith olaf yr esgynnodd i'r pulpud. Drannoeth aeth gyda Mr. Elias i ymweled â'r Parch. Ddr. Stewart. Cyn diwedd yr wythnos cafwyd ei fod yn dioddef o dan pleurisy, a bu farw yn ei breswylfod yn Standish Street fore Saboth, Tachwedd yr 2il, yn ddeg a thrigain mlwydd oed. Adroddir mai'r geiriau olaf a ddywedodd oedd: "Ie, ie; dacw'r Oen!" Claddwyd ef y dydd Mercher canlynol ym mynwent eglwys St. Paul," wrth riniog y grisiau cerrig wrth y drws gorllewinol, yn wynebu'r afon." Gwasanaethodd Thomas Hughes yr eglwysi yn Liverpool gyda ffyddlondeb mawr, am gyfnod o yn agos i ddeugain mlynedd,—bron o gychwyniad cyntaf yr Achos yn y dref; a theimlid yn gyffredinol pan fu farw fod y golled braidd yn anadferadwy. Dywedai John Elias amdano yn ei lythyr at yr eglwys alarus: "Daliodd ei ffordd a chwaneg-