Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gweithred Gyfansoddiadol "i'r Corff, yr oedd ef ar y cyntaf yn un o'r gwrthwynebwyr cryfaf. Cwynai y cyffredin o'r bobl oherwydd ei duedd i dra-arglwyddiaethu. Meddai ar gyffelyb awdurdod yn eglwysi Liverpool ag a feddai John Elias yn eglwysi Môn. Ni feiddiai neb ei wrthwynebu. Gallai gael gan yr eglwys i wneuthur beth bynnag a fynnai. "Yr oedd Thomas Hughes yn abl i roddi allan lawer o oleuni, ond goleuni sych ydoedd; yr oedd ei ymroddiad a'i lafur gydag achos crefydd yn fawr dros ben, ond nid oedd nemawr o frwdfrydedd yn ei gyfansoddiad: siaradai yn gall, yn bwysig, a phwyllog, ei eiriau yn gyfreithiau, a'i opiniynau ar bob cwestiwn yn cael eu derbyn fel lleferydd oracl."[1]

Y mae enghraifft neu ddwy o'i ddull o weinyddu disgyblaeth ar gael. Ymddiddanai un nos Iau a gwraig a gyhuddid o gynnwys merched athrodgar yn ei thy." Atebodd y wraig y cyhuddiad yn lled chwyrn. Yn wir," meddai'r gweinidog, nid dy le di, Pegi Jones, ydyw'r Seiat, ac nid yma y cei di fod; a meddwl yr wyf fi fod y cyfeillion yma i gyd o'r un farn a mi. Pawb sydd o'r un farn a mi, coded ei law !" I fynu yr aeth pob llaw yn y fan. "Yn awr, Pegi, dos allan y funud yma, i fyw gyda phobl y glep, y rhai a geri." Dywedid na welwyd neb yn cael ei droi allan ar nos lau, ond yn y " Seiat Fawr " a nos Lun, pryd y byddai holl aelodau y dref yn bresennol ac yn gwybod pwy fyddai i gael eu disgyblu; ond ni feiddiai neb wrthwynebu'r gweinidog.

Wedi iddo orffen adeilad neilltuol, gorfu iddo droi un o'i weithwyr ymaith o ddiffyg gwaith ar ei gyfer. Aeth y llanc at feistr arall, yr hwn ni roddai iddo gymaint o gyflog ag a roddasai Thomas Hughes. Pan glywodd yr hen weinidog hynny gofynnodd, ar noson Seiat, a oedd hwn a hwn yn bresennol, a gofynnodd iddo sefyll ar ei draed. Yna aeth yr ymddiddan yma ymlaen, ar goedd y gynulleidfa: "Hwn a hwn, y mae y llanc saer fu'n gweithio gyda mi yn gweithio gyda chwi yn awr, onid ydyw? Sut saer ydi o?" Saer da iawn, cystal a'r un sydd gen i." "Faint o gyflog ydach chi yn roi iddo?"

  1. Buchdraeth y Parch. John Hughes, Liverpool, gan y Parchn. Roger Edwards a J. Hughes, Liverpool: t.d. 116.