Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O ran ymddangosiad a nodweddion, disgrifir Thomas Hughes fel gŵr "bychan o gorffolaeth, heini, boch-goch, prydferth. Gŵr difrifol ymhob peth a siaradai, a rhyw ddwys- ter ym mhob peth a ddywedai: dim ysmaldod na chellwair diniwed ynddo, a braidd byth wên ar ei wyneb; a thra byddai ef yn bresennol, ni cheid neb arall yn cellwair. Y dyn mwyaf penderfynol yn ei feddwl ei hun ar bopeth a roddai ei gred ynddo a welais i erioed; gormod felly mewn rhai pethau: eto gwr gonest ym mhob peth a ddywedai ac a wnelai. Gweithiwr difefl gyda phob peth bydol neu grefyddol."

Yr oedd Thomas Hughes a'i gyd-weithiwr Thomas Edwards yn ddynion gwahanol iawn i'w gilydd. Yr oeddynt yn wahanol o ran ymddangosiad allanol. Tra yr oedd Thomas Hughes yn fychan o gorffolaeth, yr oedd Thomas Edwards yn meddu ar gorff eithriadol fawr, dros ddwylath o daldra, ac yn gyfatebol ei led. Meddai Thomas Edwards ar feddwl eang a rhyddfrydig; nid oedd wahaniaeth ganddo am na sect na phlaid yr oedd Thomas Hughes yn Gyfundebwr eiddgar, hyd at gulni eithafol yn ei berthynas ag enwadau eraill. Pregethwr i'r lliaws oedd Thomas Edwards; pregethwr i'r saint oedd Thomas Hughes. Gwahodd pechaduriaid yn daer at y Ceidwad a wnai Thomas Edwards; pentyrru bygythion ar eu pennau a wnai Thomas Hughes. Chwilio am y colledig a wnai'r cyntaf; aros gartref i fugeilio'r praidd a wnai'r ail. Credai Thomas Edwards "fod yn well cadw deg o ragrithwyr yn y Seiat na throi un Cristion allan;" credai Thomas Hughes "fod yn well cau allan ddeg o dduwiolion na llochesu un rhag- rithiwr." Yr oedd mwy o gadernid a sefydlogrwydd cymer- iad, y mae'n amlwg, yn Thomas Hughes nag yn Thomas Edwards; yr oedd yr olaf yn fwy o dan lywodraeth ei deimlad, a'i dymer yn lled anwastad. Er mai Thomas Edwards yn ddiamheuol oedd dyn y lliaws, nid oedd ryfedd i'r eglwys, pan alwyd arni i ddewis un o'r ddau i'w ordeinio, alw am ordeinio Thomas Hughes.

Afrwydd ydoedd Thomas Hughes o ran ei ddawn. Pregethu athrawiaethau a wnai yn bennaf, ac ystyrid ef yn ddiwinydd cryf. Tra cheidwadol ydoedd o ran ei olygiadau ar bopeth, a phan symudid i ddwyn allan "Gyffes Ffydd " a