Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edd. Gorffennodd ei yrfa heb roddi i neb yn y byd na'r eglwys achos i ameu ei dduwioldeb yn y mesur lleiaf."

Yr unig gyfeiriad arall a welsom at Lewis Jones sydd ym "Muchdraeth y Parch. John Hughes" (y Mount). Enwir ef a John Hughes, Mansfield Street, fel enghreifftiau o'r blaenoriaid rhagorol na chyfrifid mohonynt ym mysg cedyrn y Cyfundeb, ond oeddynt yn ddynion o amgyffred eang a chlir, wedi ei gyrraedd trwy astudiaeth o ychydig o'r llyfrau goreu.

Dywedir . . . . fod Lewis Jones, blaenor yng Nghapel Pall Mall . . . . yn hynod yn y peth hwn,—mewn amgyffred eang a barn dda, a gwybodaeth ddiwinyddol helaeth, wedi ei chasglu yn nhrymder y nos wrth ddarllen gweithiau yr hen Buritaniaid."

Gŵr genedigol o'r Bala oedd y Parch. Thomas Hughes, gweinidog cyntaf y Cyfundeb yn Liverpool. Ganed ef Mawrth 7fed, 1758. Lled brin a fu ei fanteision addysg, ond dysgodd ddarllen Cymraeg a Saesneg. Dygwyd ef i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad, yr hwn oedd saer coed. Pan oddeutu pedair ar hugain oed, daeth o dan argyhoeddiadau pur ddyfnion, ac ni chadd heddwch hyd oni ddaeth y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, ar ymweliad â'r Bala, ac y traddododd bregeth gysurlawn ar gariad Duw tuag at y byd,—Ioan iii. 16. Ymunodd Thomas Hughes â Society y Bala yn ddiymdroi, a'i hyfrydwch, o hynny ymlaen, oedd " gwrando pregethau a gwrando ymddiddanion y saint."

Daeth i Liverpool yn ŵr ieuanc naw ar hugain oed, yng ngwanwyn 1787, ychydig amser cyn agoriad capel Pall Mall. Ni fwriadai aros yn y dref; daethai yn hytrach i ennill profiad helaethach yn ei grefft. Gwir y sylwa ei gofiannydd:

"Eithr yr oedd gan yr Arglwydd ddiben llawer mwy ei bwys a'i ganlyniad; yr oedd Efe wedi ei fwriadu i le mawr yn Ei eglwys, ac i fod o ddefnydd neilltuol gyda Ei achos dros lawer o flynyddoedd." Aeth i letya i dŷ William Llwyd. Yr oedd bob amser o duedd fyfyrgar, ac adroddir mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth wedi dyfod i'r dref oedd prynu cyfrolau Calfin, "The Institutes of the Christian Religion," a darllennodd hwy yn fanwl. Oddeutu'r flwyddyn 1791 ymbriododd â Jane Ellis, hithau fel yntau o'r Bala. Bu iddynt bedwar o blant, dau fab a dwy ferch. Bu farw'r ddau fachgen yn ieuanc.