Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr offeryn drwy ba un y gwelodd yr Arglwydd yn dda i ddechreu y gwaith mawr hwnnw oedd Mr. William Evans, un o henuriaid yr eglwys, a'r hwn oedd un o'r rhai cyntaf bron gyda'r achos crefyddol yn Liverpool. Nid oedd wedi ei gynysgaeddu a doniau helaeth. . . . Tra yr oedd efe, un nos Saboth, yn gweddio ac yn ymbil drostynt ar ddiwedd y cyfarfod . . . yr oedd yno ryw olwg ryfeddol, pawb o'r bron, yn hen ac yn ieuanc, yn dyrchafu eu llef, rhai mewn wylofain, eraill mewn mawl. . . . Yr oedd Mr. W. Evans yn dra nodedig am ei fywiogrwydd gwresog yn dechreu canu mawl yn y gynulleidfa, ac am ei daerineb a'i hyfdra sanctaidd mewn gweddi. Gor- ffennodd ei yrfa, heb golli ei goron, yn y mis Mehefin, 1822, yn y 64 flwyddyn o'i oedran."[1]

Yr oedd y ddau flaenor arall, John Davies a Lewis Jones, ymysg y rhai a gychwynasant yr achos ym mhen deheuol y dref, a arweiniodd yn y man i sefydliad eglwys Bedford Street. Ymaelododd John Davies yn yr eglwys newydd, ac yn ddiwedd- arach gwnaeth yr hen bregethwr Thomas Edwards yr un modd, wedi symud ohono i fyw i'r cyfeiriad hwnnw. Ceir adrodd eu hanes hwy eu dau ynglŷn â'r eglwys honno, gan mai ynddi hi y rhoddasant eu gwasanaeth pennaf. Bu Lewis Jones hefyd ynglŷn ag eglwys Bedford Street am rai blynyddoedd, er na cheir ei enw yn rhestr yr aelodau. Dywedir iddo fyned yn ôl i Pall Mall yn y flwyddyn 1822,-y flwyddyn y bu William Evans, ei gyd-swyddog farw. Diau iddo deimlo bod mwy o'i angen yn ei hen eglwys o hynny allan. Nid oes dim o hanes bywyd Lewis Jones wedi ei gofnodi. Adroddir gan "J.J., Liverpool," hanes ei farwolaeth "dra disymwth ac arswydus." Tra'n dilyn ei alwedigaeth fel gôf ynglŷn ag eglwys newydd a adeiledid yn Park Road, digwyddodd yn fuan wedi cyrraedd ohono at ei waith yn gynnar fore dydd Llun, Rhagfyr yr 20fed, 1830, iddo dripio ar ddarn o garreg, a chwympo i waelod y chwarel o'r hon y codid cerrig at yr adeilad. Lladdwyd ef yn y fan. "Yr oedd yn 63 mlwydd oed, ac wedi bod yn henuriad ffyddlon yn yr eglwys yn Liverpool dros ysbaid 35 mlyn-

  1. Cofiant y Parch. Thomas Hughes, Liverpool, gan J. Jones.