Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad gorfoleddus mor ddisymwth fel y gallesid meddwl fod llinynau eu calonnau wedi ymddatod gan or-lawenydd. Yna y llinellau nesaf—

'Bydd melus lanio draw,
'Nol bod o don i don;
Ac mi rof ffarwel maes o law
I'r ddaear hon.'


Treithganent y llinell gyntaf yn lled gyflym, yn ol synwyr ac ysbryd y geiriau, gan ddodi pwysdonyddiad cryf ar 'Melus lanio draw,' ac fe allai y byddai rhyw hen frawd neu chwaer yn atodi O diolch!' neu' Bendigedig!' fel mendin cyn dechreu y llinell nesaf, yr hon a ganent yn araf a difrifol. Yna cyflyment gyda'r geiriau Ac mi rof ffarwel maes o law i'r ddaear hon,' gan atodi ar eu hol' Ie, ie,' a' Diolch byth '! tra byddai rhai yn dechreu o'r newydd, ac yna y dechreuent hwythau ar eu hol, bedwar nodyn neu bump, nes y byddai yn fugue ganddynt; rhai yn canu un llinell, ac eraill llinell arall, ac weithiau arhosent yn y canol i floeddio Diolch!' nes yn y diwedd y byddai y gynulleidfa yn torri allan mewn gorfoledd. A byddai llais William Evans i'w glywed drwyddynt oll. . . .

"Bedd William Evans (ym mynwent eglwys St. Nicholas) sydd gyfagos i'r dial sydd yn y fynwent. . . . Wrth ei ymyl y mae beddfaen a phennill tra od yn gerfiedig arno—

'This town's a corporation full of crooked streets,
Death is the Market Place where all men meets;
If life were merchandise that men could buy
The rich would always live, the poor must die."[1]


Ceir crybwylliad am William Evans drachefn yng Nghofiant y Parch. Thomas Hughes, ynglŷn â chyfarfod y plant y dech- reuwyd ei gynnal yn 1817 ar ôl yr oedfa nos Sul, yn yr ysgoldy o dan y capel. Rywbryd yn 1819 "disgynnodd dylanwadau grymus ac effeithiol yr Ysbryd Glan ar lawer o'r plant, ac fe chwanegwyd nifer mawr ohonynt at yr eglwys.

  1. Y Tyst Cymreig, Mehefin 11eg, 1869.