Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Plastrwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a'i gartref yn Agnew Court, James Street. Heblaw bod yn flaenor eglwysig, ef hefyd oedd blaenor y gân. Syniai Corfannydd yn uchel iawn amdano. Gan mor ddiddorol yr hyn a edrydd am ddull yr hen Gymry o ganu mawl, rhoddwn yn llawn yr hyn a ysgrif- ennodd am William Evans a'i ddull o arwain y gân:

Gŵr nodedig ydoedd William Evans yn ei oes gyda'r Cymry, am ei sel, ei dduwiolfrydedd, a'i fawr ofal am leshad tymhorol ac ysbrydol ei gyd-ddynion. Dyn mawr o gorffolaeth ydoedd, o hyd a lled mwy nag a welir yn gyffredin, ac eto yn heinyf a bywiog, a llawn ynni. Pa beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo, fe a'i gwnai â'i holl egni a chyda'r deheurwydd mwyaf. Gwir lun a chynllun oedd o'r hen Fethodist cyntefig, wrth ddarllen, wrth weddio, ac yn enwedig wrth ganu. Yr oedd ganddo lais bass cryfach na'r cyffredin, ac eto yn felus a pherseiniol. . Ni wyddai William Evans ddim am y notes, . . . . ond fe wyddai yn eithaf da sut i ganu penillion Williams Pantycelyn nes gyru y gynulleidfa drwyddi oll i anghofio ei hun mewn llawenydd a gorfoledd. Yr oedd y canu cyntefig ym mhlith yr hen Gymry yn fwy tebig i dreithganu (chanting), yn enwedig ym mhlith y Trefnyddion Calfinaidd . . . ac ni chlywais yr un mwy medrus yn y dull yma o ganu na William Evans. Ceisiwn ddisgrifio y canu hen ffasiwn, goreu gallwn mewn ysgrifen, er mwyn yr oes bresennol. Wedi rhoddi pennill allan i ganu, megis

'Am fod fy lesu'n fyw,
Byw hefyd fydd ei saint,'—


canent ef ar yr hen dôn 'Leoni.' Nid oedd ganddynt un arall. Dechreuai William Evans y gân gyda hyder ac ofn parchus; yna y gynulleidfa a ymaflai ynddi yn yr un ysbryd i gydganu. Elent dros y llinellau felly ddwywaith feallai, ac os byddai hwyl, deirgwaith neu bedair. Yna y ddwy linell nesaf—

'Er gorfod dioddef poen a briw,
Mawr yw eu braint.'


Canent y llinell gyntaf yn araf a dwys-ddifrifol, ond y geiriau 'Mawr yw eu braint' a ddeuent yn gyflym o'u genau, yn ebych-