Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â merch siopwr lled gyfrifol. Dechreuasant hwythau gadw busnes eu hunain. Cyn hir, o fod yn siopwr, daeth y gŵr ieuanc yn farsiandwr, ac ymhen ychydig flynyddoedd safai ar yr Exchange ymysg prif farsiandwyr y dref. Symudodd i fyw allan yn y wlad, gan ddyfod i'r dref bob dydd yn ei gerbyd. Nid anghofiodd ei fam; er mor galed y gweithiodd ym more ei hoes, gofalodd ei mab iddi gael treulio ei nawnddydd yng nghanol helaethrwydd o gysuron.

Dau syml-ddyn, aelodau yn Pall Mall yn y cyfnod hwn, a roddent lawer o ddifyrrwch i'r gwrandawyr gyda'u sylwadau diniwed a'u "porthi " cynnes, oedd "Pitar Jones y Crydd,"

"Huw Jones Moliant." Profedigaeth y crydd oedd ei duedd i gysgu yn y capel, er y gwadai ef y cyhuddiad yn bendant, gan haeru mai cau ei lygaid y byddai "i wrando'n well." Er profi ei fod yn effro, byddai gynted yr agorai ei lygad, yn gweiddi rhyw air gorfoleddus neu arall yn gymeradwyaeth i sylwadau'r pregethwr. Nid bob amser, fodd bynnag, y byddai'r gair yn ffitio'r amgylchiad. Unwaith, pan ymdriniai'r pregethwr a mater y bu raid iddo gydnabod na fedrai ddim cael geiriau i ddweud wrthych," gwaeddodd Pitar Jones yn orfoleddus, "O Bendigedig!" Pregethwr arall, wedi cadw'r gynulleidfa gyda phregeth o awr a hanner ar fore oer, a ddywedodd: "Yr wyf yn awr am derfynu:"—"Diolch byth!" llefai'r crydd yn wresog. Gofynnodd gŵr arall o'r pulpud, wedi pregethu yn bur ddifrifol, "Wel, fy mhobol annwyl, beth nesaf gai ddweud wrthoch chi?"—" Amen!" atebodd Pitar Jones. Enillodd Huw Jones yr enw "Huw Jones Moliant" oherwydd mai ei hoff air ef wrth borthi'r gwasanaeth fyddai "O Moliant!" "Moliant byth!" Ni fyddai wahaniaeth pa un ai rhannu ei destun, ai adrodd addewid gysurlawn neu fygythiad ofnadwy y byddai'r pregethwr, derbynnid y cyfan fel ei gilydd gan Huw Jones gyda'r un dychlamiad, Moliant byth!"

Nid oes dim o hanes Lewis Hughes, y cyntaf ar ôl William Llwyd ar restr blaenoriaid yr eglwys, ar gael. Ceir ei enw yn y Directory am y flwyddyn 1796, a disgrifir ef yno fel llifiwr (sawyer) yn byw yn Blundell's Court, Fenwick Street. Ni feddwn ychwaith ar ddim o hanes personol William Evans.