Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dock, gan ofalu yn ddiweddarach am odyn galch a safai ar lan yr afon ger Seacombe. Wedi noswylio, a thra'n ddiwyd yn coblio esgidiau ei deulu, byddai rai prydiau hanner dwsin neu ragor o Gymry yn eistedd o amgylch ei stôl, yn cael gwersi ganddo mewn darllen. Gweithiai yn egniol gyda'r Ysgol Sul, fel athro ac fel ymwelydd. Symudodd o Pall Mall, lle y trigai ar y cyntaf, i Highfield Street, a dechreuodd fusnes gwerthu llyfrau. Trwy ei ymdrechion ef aeth ugeiniau o gopiau o Waith Gurnal, Geiriadur Charles, Taith y Pererin, Gorffwysfa'r Saint, a'r cyffelyb, i dai y Cymry, a hynny yn ddiamheuol er bendith iddynt. Pan ordeiniwyd Josiah Hughes, mab John Hughes, Mansfield Street, i fyned yn genhadwr i Malacca, anturiodd Owen Williams gyhoeddi, ar ei draul ei hun, y Cyngor a'r pregethau a draddodasid yn y gwasanaeth hwnnw, yn llyfryn destlus. Llwyddodd yn dda o ran ei amgylchiadau, a rhoddodd i'w fachgen yr addysg orau oedd o fewn ei gyrraedd. Daeth y mab yn un o Gymry mwyaf adnabyddus a pharchus y ddinas,—yn aelod o'r Cyngor Trefol, a'r Bwrdd Addysg, yn Ynad Heddwch, yn Gadeirydd Cyfarwyddwyr y Liverpool Institute, ac amryw swyddau anrhydeddus eraill, y diweddar Gynghorwr Owen Hugh Williams.

Ceir enghraifft dda arall o ddiwydrwydd rhieni tlawd ymysg y Cymry cyntaf yn Liverpool, neu yn hytrach, yn yr amgylchiad hwn, diwydrwydd gweddw dlawd, yn cael ei wobrwyo yn helaeth. Aelod yn Pall Mall oedd "Grasi Williams," uchel ei pharch gan Gymry a Saeson. Gadawsid hi yn weddw gydag un bachgen bychan, ac yr oedd ei bryd ar roddi i'r bachgen fanteision addysg da. Ni feddai ar ddim arian ond a enillai ei hun drwy lafur caled. Y blynyddoedd hynny, ychydig o'r ierdydd glo a arferai werthu llai na thunnell neu hanner tunnell ar y tro, ac ni allai llawer o'r bobl, gan hynny, fforddio ei brynu. Dechreuodd Grasi Williams gario llwythi bychan o gant neu ddau, mewn berfa, o iard lo yn Old Hall Street, i'r tai, a derbyniai gydnabyddiaeth o geiniog am bob cant. Gwelid hi, gyda'i chap gwyn, a hancas lâs drosto wedi ei rhwymo dros ei chlustiau a than yr ên, yn gwthio ei berfa lwythog, o chwech yn y bore hyd chwech yn yr hwyr. Wedi gorffen ei addysg, prentisiwyd y bachgen, ac yn fuan priododd