Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hanes Methodistiaeth Liverpool.


PENNOD I.

Y CYMRY A LIVERPOOL.

GWELIR yn hanes dinas Liverpool enghraifft nodedig o dyfiant a chynnydd lle dinod ac anhysbys nes dyfod ohono, mewn cyfnod cymharol fyr, yn un o ddinasoedd a phorthladdoedd mwyaf a phwysicaf y byd. Pan gasglwyd ynghyd y Brawdlyfr (Doomsday Book),—y cofrestriad manwl o holl diroedd a phlwyfi a thrigolion Lloegr, a wnaed ar orchymyn Gwilym y Gorchfygwr, yn y flwyddyn 1086,-ymddengys bod y pentref bychan o bysgotwyr tlodion ar lannau Merswy yn rhy ddisylw iddo gymaint a chael ei enwi.

Aeth dau can mlynedd arall heibio cyn gweled o neb ragoriaeth ei sefyllfa. Oddeutu dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg canfu Ioan, brenin Lloegr, safle fanteisiol y dreflan fel porth- ladd, yn arbennig, ar y pryd, i'r amcan o anfon milwyr drosodd i'r Iwerddon. Rhoddodd Siarter i'r dref, a sicrhai rai breintiau i'r trigolion, ac a fu'n foddion, mae'n ddiau, i ddenu eraill i ymsefydlu ynddi. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1207. Yn Siarter y brenin loan y gwelir yr enw Liverpul am y tro cyntaf. Bum mlynedd yn ddiweddarach, 1212, y gwelwn y cofnod cyntaf, ni gredwn, sy'n cysylltu'r dref mewn unrhyw fodd â Chymru. Yng nghyfrifon y Siryf am y flwyddyn honno, cynhwysir "traul cludo dynion (milwyr), gwartheg a moch," a anfonasid o'r pen-cadlys yng Nghaerhir (Lancaster), drwy Liverpool i Gaer, ac oddiyno i Ddeganwy a Chonwy, lle'r oedd byddin Lloegr mewn anhawster, os nad mewn cyfyngder, oherwydd prinder ymborth tra'n ymlid Llywelyn, dywysog Gwynedd.

Oddeutu diwedd yr un ganrif, yn y flwyddyn 1272, rhoddir nifer y tai yn Liverpool yn 168, a'r boblogaeth, 840.

Y ganrif ddilynol, wedi darostwng o'r Saeson Gymru, a sefydlu heddwch, dechreuodd trafnidiaeth llongau lled gyson