rhwng Liverpool a "phorthladdoedd " Conwy a Biwmares. Ar ragor nag un achlysur, gorchmynnodd y brenin gymryd meddiant o'r holl longau yn y ddau borthladd Cymreig, i gludo ei swyddogion a'u gosgordd i'r Ynys Werdd. Y Cymro cyntaf y gwelir cysylltu ei enw â'r dref ydoedd un Dafydd ap Gruffydd. Rhoddwyd iddo ef, yn 1495, brydles ar ei threthi a'i thollau, am yr hon y talai i'r brenin, Harri VII., y swm o bedair punt ar ddeg yn flynyddol. Tybir mai un o ddilynwyr y Tuduriaid a ddaeth o Gymru i Loegr ydoedd y gŵr hwn. Ceir iddo fod yn Faer y dref fechan ddwywaith, yn 1503 a 1515. Wedi ei farw ef, rhoddwyd y brydles i'w weddw, Alis Gruffydd, ac un Henry Ackers, neu Accres, oedd fab yng nghyfraith iddi.
Oddeutu'r adeg yma y cyfarfyddir gyntaf â'r ffurf "Lyrpul" ar enw'r dref. Felly y'i sillebid ym mhrydles Dafydd ap Gruffydd. Yn lled debyg, Lyrpole, y'i sillebid hefyd gan John Leland, yr hynafiaethydd, a deithiodd y wlad chwe blynedd (1533-9) i chwilio hanes a chroniclau'r eglwysi. A oes dylanwad Cymreig ar y ffurf yma i'r enw (Lyrpul—Lle'r-pwll) sydd gwestiwn na ellir, mae'n debyg, yn awr ei benderfynu. Er newid o ffurf yr enw droeon mewn llên Saesneg,—Litherpul, Liverpoole, Liverpolle, Lyerpull, Litherpoole, Leverpoole,—i'r Cymry, ar lafar gwlad, Lerpwl, mae'n ymddangos, ydoedd yr enw erioed, a Lerpwl yn ddiau yr erys[1]
- ↑ . Dywaid Corfannydd yn " Y Tyst Cymreig " (1870) mai Pedr Fardd a fathodd yr enw Llynlleifiad. Oddeutu'r flwyddyn 1815 dechreuodd anfon ei gynyrchion barddonol i "Seren Gomer" o dan y ffug-enw" Pedr Fardd, Llynlleifiad." Ychwanega Corfannydd fod cryn ymholi ymhlith y darllenwyr ymha ran o'r byd yr oedd Llynlleifiad Credwn, fodd bynnag, nad yw Corfannydd yn gywir pan ddywaid mai Pedr Fardd a fathodd yr enw hwn. Yn y flwyddyn 1767 argraffwyd yn Liverpool gyfieithiad Cymraeg o Draethawd Romaine ar "Fywyd Ffydd," y llyfr Cymraeg cyntaf a argraffwyd yn y dref. Y cyfieithydd oedd "Ioan Tomas" (John Thomas, Rhaeadr Gwy, fel y tybir). Ar y wyneb-ddalen ceir y ddwy linell a ganlyn:"O'm llafur yn Llynn y Lleifie
Mewn lle dryd ymhell o dre."Bychan yw'r gwahaniaeth rhwng " Llynn y Lleifie "a" Llyn Lleifiad," a diamau fod y llyfr a'r gwpled yn adnabyddus i Bedr Fardd. Gwelir felly ddarfod bathu yr enw hwn ar y dref yn agos i hanner canrif cyn i Bedr Fardd ei ddefnyddio, er, fe ddichon, mai drwy ei ysgrifau ef y dygwyd yr enw i arferiad gweddol gyffredin. (Gwel ysgrif Mr. Hugh Lloyd, Liverpool, yn "Y Traethodydd," Ionawr, 1928, ar "Lyfrau Cymraeg a Argraffwyd yn Liverpool cyn 1800.")