Yng Nghofnodion y dref am y flwyddyn 1685, ceir cyfeiriad diddorol at hen Gymro o'r enw Moses Hughes, a feiddiasai alw "Maer a Henuriaid y dref" yn "ffyliaid "! Am achos nas nodir, dirywiasid y Cymro chwe phunt. Wedi ei ryddhau, ymffrostiai bod ganddo ugain punt yn ei logell; a galwodd y Maer a'i gynghorwyr ar yr enw diystyrllyd a adroddwyd, oherwydd iddynt ei ollwng yn rhydd gyda dirwy mor ysgafn, pryd y buasai yn hawdd iddynt gael cymaint yn rhagor! Tybiasant," meddai, "nad oeddwn ddim ond hen Gymro tlawd; ond dangosais dric da iddynt, a gosodais i fyny ar y strydoedd ddrych (looking-glass) iddynt gael gweld eu hwynebau ffol ynddo, a gwrido!" Pa beth a ddigwyddodd ymhellach i'r hen Gymro, ni edrydd yr hanes.
Yn gynnar ar y ddeunawfed ganrif daw enw un Cymro i gryn amlygrwydd,—John Hughes. Bu'n Faer y dref yn y flwyddyn 1727. Cafodd y swydd fel canlyniad etholiad cyhoeddus. Nid yn fynych y dewisid Maer drwy etholiad cyhoeddus, ond ymddengys i hynny ddigwydd rai troeon oddeutu'r blynyddoedd hyn oherwydd bod anghydfod a theimladau chwerw rhwng y pleidiau oedd yn y Cyngor. Parhai yr etholiad weithiau dridiau a rhagor; ar un achlysur parhaodd chwe diwrnod. Prynid pleidleisiau yr etholwyr yn gwbl ddi-gêl, a thelid yn ddrud am danynt. Darperid hefyd gyflawnder o ymborth a diod. Adroddir am un etholiad a gostiodd i'r ddau ymgeisydd nid llai na thair mil o bunnoedd yr un. Casglwn felly fod y Cymro hwn, John Hughes, yn ŵr o gyfoeth; rhaid ei fod hefyd yn ŵr o ddylanwad, oherwydd dywedir bod ei wrthymgeisydd, Thomas Brereton, yn fonheddwr tra chyfrifol, a fu'n gynrychiolydd y dref yn ddiweddarach yn y Senedd. Adroddir i John Hughes, yn 1716, gael caniatad y Cyngor "i godi clai a marl at wneud "sugar moulds or potts and other kinds of muggs," am dâl blynyddol o hanner coron! Dichon bod yn y cofnod awgrym o natur ei fasnach; ceid amryw grochenyddion yn y dref y blynyddoedd hynny, ac amryw farsiandwyr siwgr hefyd. Gŵr anhydrin a therfysgaidd, mae'n ymddangos, ydoedd John Hughes. Gorchmynnwyd yr Ysgrifennydd Trefol yn 1707 i'w rybuddio y collai ei aelodaeth oni ddilynai gyfarfodydd y Cyngor yn