Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwy rheolaidd. Ym mlwyddyn ei Faeryddiaeth drachefn, cyhuddid ef o esgeuluso ei ddyletswydd, a phallu galw'r Cyngor ynghyd. Nid oedd hyn ond ei ffordd ef a'i gefnogwyr o rwystro'r Cyngor yn ei waith. Yn 1736 diswyddwyd ef; ond bedair blynedd yn ddiweddarach adferwyd ef drachefn, wedi cydnabod ohono ei fai, a gwneuthur ymddiheurad cyhoeddus.

Y gŵr hwn, John Hughes, hyd y gwelir, oedd y Cymro cyntaf, wedi Dafydd ap Gruffydd, i lanw swydd Maer y dref. Gwelir rhai enwau eraill ynglŷn â'r Cyngor Trefol a ddichon fod yn enwau ar Gymry: Roger Jones, yn 1650, a wnaed yn "Arolygydd" ("Inspector"), ond nid yw'n glir beth oedd natur ei swydd; Richard Jones, yn 1679, a drigai ar yr "Heath" (ochr ddwyreiniol Whitechapel a Lime Street presennol), gerllaw tŷ yr hwn y dywedid bod "dau bwll dŵr peryglus,' ac y rhoddwyd iddo fis o amser i'w llenwi, neu ddioddef cosb y gyfraith; George Griffith, yn 1697, yn gwerthu darn o dir; a Robert Gwyllim, Esquire, yn gofalu am y Signal House i'r llongau.

Oddeutu pymtheng mlynedd wedi Maeryddiaeth derfysglyd John Hughes, llanwyd y swydd yn 1744 gan Gymro arall, y rhoddir tystiolaeth uchel iddo,—Owen Pritchard. Ef, yn ddiamau, yw'r "Aldramon Prisiart" y cyfeiria Goronwy Owen ato ragor nag unwaith yn ei lythyrau o Walton. Oddi wrth gyfeiriadau Goronwy ymddengys yn debyg mai gŵr o Fôn ydoedd, a bod ganddo law mewn sicrhau i'r bardd guradiaeth Walton. Bu Owen Pritchard yn Faer ar gyfnod pryderus, pan ofnid i'r Tywysog Charles o'r Ysgotland ("The Pretender "), ymosod ar y dref, ar ei ffordd i Lundain i fynnu'r goron. Telir gwrogaeth i deyrngarwch y Maer Cymreig, a helaethrwydd y paratoadau a wnaeth i gyfarfod ymosodiad, pes deuai.

Bu un Joseph Davies yn Faer yn 1749, ac un Richard Hughes yn 1756; ond ni chawsom unrhyw sicrwydd fod y naill na'r llall yn Gymro.

Ym mlynyddoedd olaf yr eilfed ganrif ar bymtheg a blynyddoedd cyntaf y ddeunawfed, daw enwau amryw leoedd yng Ngogledd Cymru i'r golwg yng Nghofnodion y dref ynglŷn â