chynllun y ceir lle i amau oedd yn dra thwyllodrus a chreulon. Y blynyddoedd hynny ceir bod galw mawr am lafurwyr ar y planhigfeydd cotwm yn yr America. Ni ddechreuasai cysylltiad Liverpool â'r gaeth-fasnach eto. O dan goch yr enw "ymfudwyr" (" emigrants ") a "phrentisiaid," rhwymid plant ac eraill, yn arbennig dynion y dymunid cael ymwared ohonynt, am "nifer o flynyddoedd " i fyned i'r planhigfeydd yn Ynysoedd India'r Gorllewin, neu i Virginia, Carolina, a Georgia. Dywedir nad oedd eu cyflwr wedi cyrraedd yno, lawer ohonynt, ronyn gwell na'r eiddo y caethion duon a gyd-weithient â hwy. Yn y rhestr o'r rhai a " ymfudwyd " neu a "brentisiwyd " fel hyn ac a anfonwyd i Virginia, Hydref, 1698, ceir enwau pump o Gymru: Humphrey Howel o Sir Feirionnydd; John Davies ac Edward Parry o Sir Ddinbych; John Wynn o Ruthyn, a Joyce Cooper o Sir Gaernarfon. Mewn rhestrau eraill gwelir enwau gwŷr, gwragedd a phlant, o holl Siroedd Gogledd Cymru. Amrywiai eu hoed o wyth mlwydd i ddeg ar hugain.
"Porthladd,"—canys felly y'i gelwid—o gryn bwysigrwydd yn ei berthynas â Liverpool yn y blynyddoedd yr adroddir am danynt, yr eilfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed, oedd Biwmares. Ond nid oedd yn lle diogel, yn bennaf oherwydd creigiau Penmon gerllaw. Yn 1724 awdurdododd Corfforaeth Liverpool Drysorydd y Dref "i anfon deg pwys ar hugain o bylor (gun-powder), a saith bunt o arian, i helpu chwythu i fyny y creigiau peryglus " a orweddent yn y sianel gul rhwng Ynys Lleiniog (Ynys Seiriol, neu Puffin Island) ac Ynys Môn.
Yn y blynyddoedd hyn ceid trafnidiaeth pur helaeth rhwng Môn a Liverpool,—mwy nag odid un ran arall o Gymru. Y cyfnod yma, yr oedd gwaith copr enwog Mynydd Parys yn nodedig o lewyrchus, a llu o longau bychain yn cludo'r mwyn gwerthfawr i Liverpool a Runcorn, ac yn llwytho glô drachefn yn ôl i Fôn.[1]
Hwn oedd "cyfnod euraidd "y coasters bychain. Dichon fod Môn yn wahanol i'r Siroedd eraill yn y ffaith ei bod hi o dan anghenraid i gael marchnad y tuallan i'w therfynau ei hun i'w chynyrchion. O ochr ogleddol a dwyreiniol yr
- ↑ Yn 1786 yr oedd cynifer â phymtheg ar hugain o'r llongau bychain hyn yn perthyn i borthladd Amlwch, a'r flwyddyn ddilynol ychwanegwyd saith ar hugain at eu nifer.