Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ynys,—Caergybi, Amlwch, Bae Dulas gerllaw Penrhos Llugwy, Traeth Bychan ger Moelfre, a'r Traeth Coch-deuai y blynyddoedd hynny nifer mawr o longau, gan gludo eu llwythi o geirch, haidd, blawd, tatws, ymenyn, calch, cerrig palmant (cobble stones), ac yn ddiweddarach, gerrig caled Marmor y Sychnant, ger Traeth Llugwy, at adeiladu rhannau o ddociau cyntaf y porthladd.[1] Ni raid dywedyd y deuai amryw ymwelwyr gyda'r llongau ar eu tro i'r dref, a dechreuodd rhai ohonynt ymsefydlu yno. Gwnaeth rhai o'r llongwyr hefyd eu cartref yn y dref, yn arbennig y pilots; dywedir yn wir mai Cymry, bron heb eithriad, ydoedd holl bilots Liverpool yn y blynyddoedd hynny.

Yn "Llythyrau'r Morusiaid,"—"y trimab o ddoniau tramawr," Lewis, Richard, a William Morris—ceir nifer o lythyrau byw eu harddull, a ysgrifennwyd at ei frodyr enwocach nag ef, gan eu brawd ieuengaf, John. Treuliodd ef amryw fisoedd yn Liverpool yn y blynyddoedd 1738 a 1739. Cadarnha ei lythyrau yr hyn a ddywedwyd, bod "Leverpoole" yn gyrchfan nifer mawr o longwyr Môn yn arbennig. Cyfeiria ragor nag unwaith at "ei gefnder, W. Hughes," a gadwai siop yn y dref. Dywaid ei fod ef yn lletya gyda "Mrs. Partis at ye Scipio on ye Dock Side," gan dalu tri swllt a chwe cheiniog yr wythnos am ei fwyd a'i lety. Yn ei lythyr olaf o "Nerpwl," dywaid bod ganddo " fachgen du, oddeutu un ar bymtheg oed, i'w werthu dros gyfaill iddo," ond na fedrai gael neb i'w brynu; buasai'n "foddlon i'w werthu am £30, ie, am ychydig dros £25." Rhydd ei lythyrau ambell gipolwg fel hyn ar fywyd y dref yn y blynyddoedd hynny.

Yn niwedd Ebrill, 1753, daeth Goronwy Owen yn gurad eglwys Walton. Ni raid adrodd yma ddim o helynt y bardd y ddwy flynedd a dreuliodd yng nghyffiniau'r dref. Gwelir oddiwrth ei lythyrau fod Cymro arall yn gurad eglwys Crosby,—Parch. Edward Owen, M.A., o gymdogaeth Llangurig, Sir Drefaldwyn; gŵr ysgolheigaidd, a fu wedi hynny yn

  1. Tybed mai ofni'r effeithiau ar fasnach forawl Môn a Liverpool a berodd i'r Cyngor Trefol yn 1785 anfon Deiseb i'r Senedd yn gwrthwynebu'r bwriad o daflu pont dros y Fenai? (Touzeau, The Rise and Progress of Liverpool).