Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brifathro Ysgol Ramadegol Warrington, ac yn Rheithor y dref honno. Cyfeiria Goronwy at un neu ddau o Gymry a drigent yn Liverpool—yr " Aldramon Prisiart," y crybwyllwyd ei enw eisoes, a ddisgrifir ganddo fel "gŵr mwynaidd iawn;" hefyd, un "Tom Edwards of the London City in Red Cross Street;" a cheir nifer o gyfeiriadau yn ei lythyrau at Gymry ar ymweliad â'r dref,—" Mr. Vaughan o Gors-y-gedol, a ddaeth yn lanaf gŵr i Walton;" "f'ewythr Robert Owen o Benrhos Llugwy," ac eraill.

Ni cheir un math ar restr o drigolion y dref yn gynarach na'r flwyddyn 1766. Y flwyddyn honno y cyhoeddwyd y Directory cyntaf, ond hysbysir ar y wyneb-ddalen nad yw'n rhestr gyflawn. Ceir pob sicrwydd, fodd bynnag, nad oedd y boblogaeth, y blynyddoedd hynny, uwchlaw 30,000. Nifer bychan o'r trigolion y ceir eu henwau yn y Directory am 1766 a ddygent enwau Cymreig. A barnu yn unig oddiwrth y safon honno—yr unig safon y gellir barnu oddiwrthi heddiw, ac nad yw, ni raid dywedyd, yn safon ddiogel[1]—nid oedd nifer y Cymry yn 1766 ragor na deg neu bymtheg ar hugain. Ceir pump yn dwyn yr enw Davies; tri Edwards; un Evans; dau Hughes; tri Jones; tri Owen; pedwar Roberts, a phedwar Williams. Yn yr ail Directory, a gyhoeddwyd yn 1769, ceir oddeutu trigain o enwau Cymreig; pedwar ugain yn 1773; yn agos i gant yn 1774, ac oddeutu cant a hanner yn 1781.

Cyhoeddwyd Directory helaeth a chyflawn yn 1790, a cheir bod y boblogaeth erbyn hynny wedi cynyddu yn gyflym. Rhifai y flwyddyn honno 55,732. Rhoddir y manylion hyn am danynt fod 39,118 yn byw mewn 6,540 o "dai ffrynt ("front houses"); 7,955 yn byw mewn 1,608 o "dai cefn ("back houses"); 6,780 yn byw mewn 1,728 o selerydd; y gweddill mewn sefydliadau cyhoeddus, y Tloty, etc. Y flwyddyn honno (1790) gwelir arwyddion cynnydd lled gryf

  1. Edrydd Picton i wr o'r enw John Hughes, yn y flwyddyn 1558, ddwyn y pla i'r dref, a bu agos i ddau gant a hanner o'r trigolion farw. Daethai John Hughes i Liverpool o Manchester. Bu'r hanesydd yn ddigon manwl i groniclo mai Gwyddel oedd y gŵr hwn, er mor Gymreig ei enw I