Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nifer y boblogaeth Gymreig; rhifent, a barnu eto oddiwrth yr enwau, dros dri chant a hanner.[1]

Ym mlynyddoedd cyntaf y ddeunawfed ganrif dechreuodd ffatrioedd a melinau Sir Gaerhirfryn (Lancashire) a Swydd Efrog (Yorkshire) ddefnyddio peiriannau newydd a pheiriannau ager. Cynyddodd swm eu cynyrchion yn ddirfawr, a dechreuasant eu hanfon i wledydd tramor, yn gyfnewid am ddefnydd cri (raw material), megis cotwm. Effeithiodd y datblygiad peiriannol ar fywyd rhannau mwyaf gwledig Cymru. Nid oedd galw mwyach am y droell a gwaith cartref; ceid cyflawnder o bob nwyddau yn awr yn rhatach o ffatrioedd Lloegr. Collodd miloedd yr hyn oedd mewn rhan, os nad yn gyfan, yn foddion eu cynhaliaeth, a rhaid a fu iddynt adael y tir ac ymfudo i'r trefi i geisio gwaith a moddion byw. Yr adeg yma nid oedd brinder gwaith yn Liverpool, oherwydd gwelwyd mai'r porthladd mwyaf cyfleus i ffatrioedd Gogledd Lloegr allforio eu nwyddau ohono, a derbyn eu defnyddiau yn ôl drwyddo, oedd Liverpool. Arweiniodd hyn i'r angen am gamlasau (canals)—nid oedd sôn am reilffyrdd eto—i gysylltu canol-fannau diwydiannol Caerhirfryn ac Efrog â'r porthladd; ac arweiniodd drachefn, yn Liverpool ei hun, i'r angen am ddociau helaethach a mwy cyfleus. Dechreuwyd torri y Leeds and Liverpool Canal yn 1770, a gorffennwyd ef yn 1774. Yn 1775 nid oedd ond tri doc yn perthyn i'r porthladd: yr Old Dock a agorwyd yn 1721 ac a gauwyd yn 1825, ar safle yr hwn y saif y Dollfa (Custom House) bresennol; y Salthouse Dock a agorwyd yn 1753, ychydig yn fwy i'r de; a'r George's, 1771, ar safle yr hwn y saif heddiw swyddfeydd gwych y Royal Liver, y Cunard, a'r Dock Board. Gelwid y George's Dock yn fynych "The Welsh Basin," oherwydd mai yno y byddai'r

  1. Er dangos cynnydd cyflym y dref, rhoddwn y ffigyrau a ganlyn a gymerwyd o lyfr Smith,"A Guide to Liverpool":—
    Yn 1700, rhif y tai, 1,142; y trigolion, 5,714.
    Yn 1720, rhif y tai, 2,367; y trigolion,11,838
    Yn 1742, rhif y tai, 3,600; y trigolion, 18,000.
    Yn 1760, rhif y tai; 5,156; y trigolion 25,787.
    Yn 1801, rhif y tai, 11,784; y trigolion, 77,708.
    Yn 1821, rhif y tai 20,339; y trigolion 118,972.
    yn 1831, rhif y tai 27,361; y trigolion 165,221.
    Yn 1841, rhif y tai —; y trigolion. 224,954.