holl longau Cymreig yn llwytho ac yn dadlwytho. Ar ei ochr ogleddol ceid yr ierdydd llechi. Gyda'r cynnydd cyflym mewn adeiladu tai, aeth y fasnach lechi yn brysur, a chludid llwythi lawer ohonynt o'r Felinheli, a Chaernarfon a Bangor, a Chymry, bron yn gyfan, a arolygent y fasnach.
Llifai llanw masnach y dref yn awr yn gyflym a chryf. Cynyddasai'r tonnage o 62,390 o dunelli yn 1765 i 151,347 yn 1786. Wedi terfyniad y rhyfel â'r America yn 1782, dechreuodd masnach dramor y porthladd gynyddu. Yn 1700 nid oedd nifer y llongau a ddaethent i'r afon ond 102; yn 1751 cododd i 543; yn 1783 i 3,420. Yr un flwyddyn, 1783, ceir bod 446 o longau yn perthyn i borthladd Liverpool ei hun, ac o'r rhain yr oedd 86 ynglŷn â'r gaeth-fasnach, a lle ynddynt i gario dros 24,000 o gaethion. Dechreuwyd adeiladu dau ddoc newydd, y King's a'r Queen's; gorffennwyd y cyntaf yn 1788, a'r ail yn 1796. Oddeutu'r un adeg hefyd dechreuwyd ar y Bridgewater Canal, a'r Duke's Dock (Duc Bridgewater); hefyd oddeutu'r un pryd ffurfiwyd Cwmni Dŵr Bootle. Yn ychwanegol at hyn drachefn codid ystordai (warehouses) helaeth y Goree, rhwng gwaelod James Street a gwaelod Water Street. Yr adeg yma hefyd yr oedd Chwarel St. James (ar ochr Hope Street presennol) ar lawn gwaith. Dywaid Corfannydd, a anwyd yn Liverpool, ac a dreuliodd flynyddoedd lawer yn y dref, iddo glywed "gan yr hen bobl mai Cymry oedd braidd yr oll a wnaeth y dociau hyn." Yr oedd eu profiad fel chwarelwyr, a mwynwyr, a llafurwyr y tir, yn peri nad oedd eu cymhwysach na'u medrusach at y gwaith. Cymry hefyd oedd "llawer o'r rhai a weithient yn Chwarel St. James." Gelwid y Ffatri Gotwm-ffatri lled fawr yn y dyddiau hynny-a godasid gan Kirkman a'i Gwmni yn Vauxhall Road, rhwng Midgehall Street a Banastre Street, yn gyffredin wrth yr enw "The Welsh Factory," oherwydd mai Cymry bron i gyd oedd yn ei harolygu ac yn gweithio ynddi. Enillai y gweithwyr well cyflog yn Liverpool nag a gaent yng Nghymru; "daethant drosodd o un i un, y naill ar ôl y llall, o bob Sir braidd yng Ngogledd Cymru. Yna, wedi iddynt aros ond ychydig, danfonent am eu perthynasau a'u hen gymydogion i ddyfod drosodd, hwy a'u teuluoedd."