Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelir felly mai yn ystod chwarter olaf y ddeunawfed ganrif y dechreuodd y Cymry ymsefydlu yn nhref Liverpool. Erbyn diwedd y ganrif honno y mae'n amlwg eu bod yn rhifo amryw gannoedd. Croesawid hwy fel gweithwyr oherwydd eu medr, a'u diwydrwydd, a'u gonestrwydd. Derbyniodd Liverpool, y mae'n amlwg, rai o oreuon Cymru,—dynion o ysbryd anturiaethus ac o gymeriad cadarn a chryf. Dringodd rhai ohonynt, yn arbennig y rhai a fedrent ysgrifennu, o fod yn weithwyr cyffredin, i safleoedd da a chyfrifol yn fuan. Cymro o Fôn ydoedd Robert Jerman, prif arolygydd Cwmni Dŵr Bootle; Cymro arall, John Owens, a wnaed yn brif reolwr y Duke's Dock; a chydwladwr, William Morgan, yn gynorthwywr iddo; Robert Edwards, "y Cantwr," oedd arolygwr yr Old Quay Company; yn wir, dywedid nad oedd odid swydd o ymddiried "ynglŷn ag unrhyw waith mawr, nad oedd Cymro yn ei llanw." Perchid y Cymry, yn wŷr ac yn wragedd, gan bob dosbarth. Yr oedd eu glanweithdra yn ddiarhebol; dywedid y gellid adnabod tŷ teulu Cymreig oddiwrth ei lendid allanol. Trigent hefyd mewn heddwch â'i gilydd ac a phawb arall, heb gweryla ac ymladd, megis y gwnâi llawer o'u cymdogion; arweinient fywyd sobr a bucheddol, gan ddwyn gyda hwy i'w cylch newydd nodweddion gorau y cymeriad crefyddol Cymreig.[1]

  1. Ceir bod nifer lled fawr o Gymry wedi ymsefydlu oddeutu'r un blynyddoed mewn mannau eraill yng Nghaerhirfryn. Daethent yno i weithio yn bennaf yn melinau a'r ffatrioedd. Nodir yn arbennig Stockport, Hyde a Warrington. Dech- reuwyd cynnal moddion crefyddol gan y Cymry yn y ddau le cyntaf a enwyd oddeutu 1799, ac yn yr olaf wyth mlynedd yn ddiweddarach. Byddai brodyr o Liverpool ac o Manchester yn myned i Warrington bob yn ail Saboth i gynnal gwasanaeth crefyddol yno, gan gerdded yr holl ffordd, bedair milltir ar ddeg, yn ôl ac ymlaen.
    Oddeutu'r un adeg ag y dechreuodd y dylifiad Cymreig i Liverpool y dechreuodd hefyd ddylifiad y boblogaeth Wyddelig. Yr oedd y dylifiad Cymreig, fodd bynnag, yn llawer cyflymach, yn bennaf, mae'n ddiau, oherwydd bod yn hawddach a rhatach dyfod i'r dref o bob rhan o Ogledd Cymru nag o'r Iwerddon. Nid oedd llawer o longau yn myned i'r Iwerddon nac oddiyno, ond gallai'r Cymry ddyfod ar draed o bob Sir.