Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.

WILLIAM LLWYD: "A'R EGLWYS YN EI DY."

AR ddechrau chwarter olaf y ddeunawfed ganrif, sef oddeutu'r adeg y dechreuodd y Cymry ymsefydlu yn Liverpool mewn nifer lled fawr, bychan a chyfyng oedd maint a therfynau'r dref. I gyfeiriad y gogledd nid ymestynai ymhellach na phen draw Old Hall Street; i gyfeiriad y de, Pitt Street, a rhannau isaf Park Lane, oedd y terfyn pellaf; a thua'r dwyrain ymestynai hyd at Whitechapel a Church Street. Y tuhwnt i'r terfynau hyn, ymhob cyfeiriad, nid oedd ond gwlad agored. Heol gul oedd Castle Street,—rhy gul i ddau gerbyd fynd heibio i'w gilydd. Ar ochr uchaf (ddwyreiniol) Whitechapel (neu Frog Lane fel y'i gelwid yr adeg honno), ceid gwrych o ddraenen wen. Nid oedd heol ffasiynol Bold Street mewn bod. Ffordd gul, yn rhedeg drwy ganol gwlad, oedd Byrom Street, yn arwain i Walton. Ar y fan lle saif yn awr St. George's Hall, safai y pryd hwnnw Ysbyty y dref; a thucefn iddo, lle gwelir St. John's Gardens yn awr, ceid y Gwallgofdy, ac Ysbyty y Morwyr. Ychydig yn ddiweddarach codwyd ar y fan eglwys St. John's, a Chladdfa o'i hamgylch, lle dodwyd gweddillion llawer o hen drigolion Cymreig y ddinas o bryd i bryd. Nid oedd yn Lime Street ond un rês fechan o dai, tra chyffredin a thlodaidd eu golwg, a safent ar eu pennau eu hunain yn union gyferbyn â'r brif fynedfa i Orsaf y Rheilffordd heddiw. Lle saif yr Orsaf yn awr, y safai yr odyn galch, oddiwrth yr hon hon y cafodd yr heol ei henw. Yn uwch i fyny, nid oedd ond rhosydd a thir gwyllt. Dau dŷ yn unig a welid yng nghyfeiriad Edge Hill. Ceid ychydig o dai marsiandwyr cyfoethog yng nghymdogaeth Mount Pleasant, ond ystyrid eu bod yn byw "allan yn y wlad." Fel rheol yr oedd preswylfod y marsiandwyr ynglŷn â'u masnachdai a'u swyddfeydd, yn Water Street, Castle Street, Dale Street a Lord Street.

Trigai'r Cymry yn bennaf yng nghymdogaeth Old Hall Street a Tithebarn Street. Ceid nifer yn byw hefyd yn James Street a Chapel Street. Cwrtydd (courts), cul a chyfyng, oedd llawer o'r mannau lle preswylient. Dywedid y clywid cymaint