Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o Gymraeg yn y rhannau hynny o'r dref ag a glywid mewn un ardal yng Nghymru, a gelwid yr heolydd yn fynych gan y Saeson, nid wrth eu henwau priodol, ond wrth yr enwau "Welsh Court," "Welsh Yard," " Welsh Chapel Court," etc.

Prin oedd cyfleusterau teithio i'r dref, nac allan ohoni. Hyd oddeutu canol y ganrif ni ddeuai'r "Goach Fawr" yn nes na Warrington, oherwydd bod y ffyrdd mor ddrwg. I fyned i Lundain, rhaid oedd marchogaeth neu gerdded, i ddechrau, i Warrington; oddiyno rhedai'r goach ddwywaith yn yr wythnos, a chymerai dridiau i wneud y daith. Oddeutu 1766 dechreuwyd rhedeg cerbydau ddwywaith yr wythnos yn uniongyrchol o Liverpool. Dyma'r pryd yr agorwyd London Road. Gwneid y daith mewn deuddydd yn yr haf, a thridiau yn y gaeaf. Elai'r teithwyr i'r daith gyda llawer o bryder, a phob amser yn arfog.[1]

Nid oedd unrhyw gyfleusterau teithio i Gymru yn bod. Oni ddeuid gyda llong o un o'r porthladdoedd bychain Cymreig, cerddid yn gyffredin i Fagillt neu Fflint; yna croesi y Ddyfrdwy i Parkgate; cerdded oddiyno ar draws y wlad i Birkenhead, a chroesi afon Liverpool mewn cwch hwyliau neu gwch rhwyfau, fel byddai'r tywydd. Weithiau deuid drwy Gaer; rhedai cerbyd oddiyno deirgwaith yr wythnos, neu'n amlach, i Eastham. Oherwydd bod yr afon mor agored, a'r llif a'r adlif (y tides) mor gryfion, nid di-berygl ydoedd croesi

[2]

  1. Ymysg papurau y diweddar John Jones, Castle Street, ceir llythyr a ysgrifennwyd ato gan James Hughes, Llundain (yr Esboniwr), dyddiedig Chwefror, 1826, yn yr hwn y cyfeiriai at ei addewid i ddyfod i Liverpool i bregethu, ac y dywaid iddo ymholi mewn dwy o swyddfeydd y cerbydau, ac y mae cerbydau Liverpool yn cychwyn o Lundain o gylch tri o'r gloch y prydnawn, ac yn dyfod i'r Saracen's Head, Dale Street..... Ond wfft idd eu pris! Pedair gini am gludo y fath greadur a mi oddimewn, a minnau heb fod yn werth pedair ceiniog i neb yn y byd! Mae arnaf ofn anturio oddiallan yr amser hwn ar y flwyddyn, er bod y pris yn llai o'r hanner. Pwy a fedr oddef oerni ac anhunedd drwy gydol nos ar ben cerbyd chwimwth! Gwell i mi aberthu dwy gini na cholli fy iechyd am fy oes."
  2. Dywedir bod nifer lled fawr o Gymry yn byw yn Eastham yn y blynyddoedd hynny. Byddai cerbydau teithwyr o Gymru i Manchester yn newid ceffylau yn y pentref hwn, a chlywid gymaint o Gymraeg ym mhlith pobl y gwestai, a'u cyfeillion y marchogion, ag a glywid mewn ambell le y tu arall i Glawdd Offa. Caiff pwy bynnag a gymer dro drwy fynwent y pentref dystiolaeth amlwg o hyn yn lliosogrwydd yr enwau Cymreig a welir ar gerrig y beddau" ("Seren Gomer", Tachwedd, 1890)