afon Merswy mewn cychod bychain; a phan ddigwyddai'r gwynt fod yn uchel, neu'r llif yn gryf, cymerid dwyawr, a theirawr, a rhagor, i groesi o'r naill ochr i'r llall. Ni redai'r cychod ychwaith gydag unrhyw gysondeb; a gofynnid weithiau gymaint â phumswllt a degswllt am gludo'r teithwyr. Arferid gan hynny ddisgwyl nes byddai nifer yn barod i groesi, y rhai a rannent draul y cludiad rhyngddynt yn gyfartal.
Teirgwaith yn yr wythnos y deuai llythyrau o Ogledd Cymru i'r dref, a theirgwaith o'r De. Cludid y mail, i mewn ac allan, ar gefn ceffyl. Nid oedd ond un llythyr-gludydd ar gyfer yr holl dref! Costiai anfon llythyr swllt a naw ceiniog, ac nid anfynych y derbynydd a fyddai'n gorfod talu!
Y blynyddoedd hynny goleuid yr heolydd â lampau olew, na roddent nemor mwy o oleuni na channwyll frwyn. Ar nosweithiau tywyll iawn, arferai'r cyfoethogion gyflogi'r link-man i fyned o'u blaen, gyda rhaff at braffter braich, a honno wedi ei thrwytho mewn pŷg (pitch), yn llosgi yn ffagl i oleuo eu ffordd. Adroddir y pethau hyn er rhoddi ychydig syniad am yr amgylchiadau o dan y rhai y trigai'r hen Gymry ar eu hymsefydliad cyntaf yn Liverpool.
Yn y cyfnod hwn ceid yn y dref chwech o leoedd addoliad perthynol i Eglwys Loegr; a chan yr Anghydffurfwyr ceid un capel o eiddo'r Wesleaid (Pitt Street); dau gapel perthynol i'r Bedyddwyr (Byrom Street a Stanley Street); dau addoldy Presbyteraidd (Benn's Gardens a Kaye Street); un capel perthynol i gynulleidfa a elwid "Protestant Dissenters (The Temple, Dale Street). Ceid hefyd un eglwys Babyddol (Lumber Street); un gynulleidfa o Grynwyr (Hackin's Hey); ac un synagog o Iddewon (Cumberland Street). Safai'r capel Anghydffurfiol cyntaf a adeiladesid, y tuallan i derfynau'r dref y pryd hwnnw, "The Ancient Chapel of Toxteth,"—capel Undodaidd ers llawer o flynyddoedd bellach, ond a berthynai yn wreiddiol i gynulleidfa o Bresbyteriaid.
Ni cheir hanes ddarfod i'r un o'r rhai a adweinir yn briodol fel y "Tadau Methodistaidd " fod ar ymweliad â Liverpool ar unrhyw achlysur yn flaenorol i gychwyniad Methodistiaeth yn y dref; ac ni ellir dywedyd bod Methodistiaeth Liverpool yn ffrwyth uniongyrchol y Diwygiad Methodistaidd, megis