Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd yn Siroedd Cymru. Gwelir i'r Parch. Griffith Jones, Llanddowror, "Seren Fore'r Diwygiad," dreulio deuddydd yn y dref ar ei ffordd i'r Ysgotland yng Ngorffennaf, 1718. Yn ei Farwnad, gan Bantycelyn, gwneid cyfeiriad at yr ymweliad â'r Ysgotland yn y llinellau: {{center block|

"Fe ga'dd Scotland oer ei wrandaw,
Draw yn eitha'r gogledd dir,
Yn dadseinio maes yn uchel
Bynciau'r iachawdwriaeth bur."

} Ni wyddid, y mae'n ymddangos, ddim am ei ymweliad â'r gogledd dir" ar wahan i'r crybwylliad hwn nes darganfod yn ddiweddar gopi o ran o'i Ddyddlyfr. Cychwynasai ef a'i frawd yng nghyfraith, Syr John Phillips, o Landdowror, Mehefin 30, 1718, gan ddyfod drwy Aberystwyth i Fachynlleth, y Bala,... Corwen, . . . Wrecsam, . . . Fflint. Oddiyno aethant "through the ford to the city of Chester," ac o Gaer "By boat to Leverpool 12 miles." Dywaid y Dyddlyfr ymhellach: July 13. Rested at Leverpool, it being Sunday."[1] Y mae'n amlwg na phregethodd Griffith Jones yn y dref, nac, hyd y gwelir, yn unman arall yn ystod y daith.

Gŵr arall, a fu mewn cysylltiad agos â'r Tadau Methodistaidd, ydoedd George Whitefield, cyd-weithiwr Howel Harris a Daniel Rowland, a Llywydd Cymdeithasfa Watford, 1743,—Cymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid. Ceir i Whitefield ymweled â'r dref o leiaf ddwywaith, yn 1753 a 1755, a phregethodd ar y ddau achlysur, yn yr awyr agored fel y tybir. Ymysg ei wrandawyr ar ei ail ymweliad yr oedd John Newton, yr emynydd melys, a'r hwn y blynyddoedd hynny a breswyliai yn Edmund Street, pan wasanaethai fel un o Tide Surveyors y porthladd. Y flwyddyn ar ôl ymweliad Whitefield, penderfynodd Newton geisio urddau eglwysig.

Ymwelai John Wesley â'r dref yn fynych, a phregethai bob dydd yn ystod ei arhosiad,—weithiau am chwech o'r gloch yn y bore, yng nghapel Pitt Street, yr addoldy, fel y ceir adrodd, yr

  1. Gwel "Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd," Cyf. vii. t.d.10.