arferai nifer o'r Cymry ei fynychu cyn dechrau achos Cymraeg yn y dref, a diau i lawer ohonynt ei glywed. Rhyfedd mor wahanol i'w gilydd oedd syniad y ddau ddiwygiwr mawr, Whitefield a Wesley, am y dref a'i thrigolion. Dywedai Whitefield na bu "erioed mewn lle y derbyniodd cyn lleied o galonogiad "; ond canmolai Wesley y gwrandawiad a roddid iddo: y bobl yn gyffredin ydyw'r mwyaf mwynaidd a moesgar a welais mewn porthladd erioed," a rhyfeddai at eu hymddygiad cyfeillgar nid yn unig tuag at Iddewon a Phabyddion, ond hyd yn oed tuag at Fethodistiaid."
Yn y capel y cyfeiriwyd ato yn awr, capel y Wesleaid Saesneg yn Pitt Street, a'r hwn, y pryd hwnnw, a safai yng nghwr pellaf y dref ac ar derfynau y wlad, y traddodwyd, hyd y mae'n hysbys, y bregeth Gymraeg gyntaf yn nhref Liverpool, a hynny, fel y tybir, yn y flwyddyn 1770. Y pregethwr oedd Owen Tomos Rolant, gŵr o Benrhos Llugwy, Sir Fôn. Nid oes dim o hanes yr oedfa ar gael. Bechan, o angenrheidrwydd, oedd y gynulleidfa, oherwydd bychan oedd nifer y Cymry yr adeg honno; a thebygol yw bod llawer ohonynt hwy, fel y pregethwr ei hun, wedi gorfod ffoi i'r dref estronol oherwydd yr erlid a fu arnynt yn eu gwlad eu hun o achos eu crefydd.[1]
- ↑ Dywaid "Methodistiaeth Cymru" a "Methodistiaeth Môn" nad oedd y capel ar y pryd "wedi ei gwbl orffen." Os yw hynny yn gywir y mae'n anodd cysoni y dyddiad 1770 a dyddiad adeiladu'r capel. Yn ôl Picton adeiladwyd ef yn 1750; yn ôl Gore's Annals, yn 1754. Dywaid Brooks ("Liverpool during the Last Quarter of the 18th Century") mai yn 1766 yr adeiladwyd ef. Credwn bod yn amhosibl i hynny fod yn gywir. Gwyddis ddarfod ei helaethu yn 1765, a dichon mai at hynny y cyfeiria Brooks. Y mae'n bosibl hefyd ddarfod ei helaethu drachefn yn 1770. Cynyddai y dref a'i phoblogaeth mor gyflym fel y bu raid helaethu amryw o'r eglwysi a'r capeli, rai ohonynt liaws o weithiau. Dichon mai ar amgylchiad felly y pregethodd Owen Tomos Rolant,—pan oedd y capel "heb ei gwbl orffen ar ôl ryw gyfnewidiadau a wneid ynddo. Cyfetyb y dyddiad 1770 yn gywir i'r adeg y daeth Owen Tomos Rolant i'r dref. Nid yw Methodistiaeth Cymru " yn ymddangos yn gwbl gyson yn y dyddiadau a roddir. Ar tud. 402, cyfrol iii., dywedir mai " tua'r flwyddyn 1767 y diangodd" i Liverpool; ond dywedir yn flaenorol, ar tud. 399: Yr ydym yn barnu mai oddeutu y flwyddyn 1770 y bu Owen Thomas Rowland yn pregethu yma gyntaf." Drachefn, ar t.d. 539-545 o'r ail gyfrol, adroddir ei hanes, wedi ei ysgrifennu gan Mr. Daniel Jones, mab Robert Jones, Rhoslan, o'i enau ef ei hun." Yn yr hanes hwnnw dywedir i Owen Tomos Rolant gael ei ddwysbigo o dan bregeth a wrandawodd yn 1763; yna, dywaid ymhellach ddarfod dechrau ei erlid "ymhen pum mlynedd a haner ar ol iddo ddechreu gwrando": buasai hynny, felly, oddeutu 1768 neu 1769. Gan iddo aros am rai misoedd o leiaf ym Môn wedi i'r erlid dorri allan arno, ymddengys yn dra thebygol fod y flwyddyn 1770 yn gywir yn ôl y ffeithiau a gafwyd" o'i enau ef ei hun "