Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gôf ydoedd Owen Tomos Rolant wrth ei alwedigaeth, ac un o'r dynion hynotaf ym Môn yn adeg dechreuad Methodistiaeth yno. Ganed ef yn y flwyddyn 1735. Ym more ei oes yr oedd yn adnabyddus am ei oferedd a'i ryfyg. Nid oedd a'i trechai mewn ymladd. Proffwydid yn sicr mai'r crocbren a fyddai ei ddiwedd. Cafodd droedigaeth amlwg a hynod. Adroddir iddo fod mewn brwydr â neidr eithriadol o fawr a barai ddychryn i'r holl ardal. Yn ei ryfyg aethai allan i ymosod arni ei hunan. Torrodd coes y bigfforch â'r hon yr ymladdai â hi, a bu agos iddo a cholli'r dydd. Sobrodd hyn ryw gymaint ar ei feddwl. Yn bur fuan daeth gŵr o'r enw Hugh Griffith, Llanddaniel,[1] i bregethu mewn ffermdy o'r enw y Fedw Uchaf ym Mhenrhos Llugwy. Perswadiwyd Owen Tomos Rolant i fyned i'r oedfa. Wedi myned i mewn, edifarhaodd; ond ni allai fyned allan oherwydd y tyndra. Testun y bregeth oedd Moses yn sefyll yn yr adwy rhwng Duw ac Israel, a barn Duw ar yr annuwiolion, y tyngwyr a'r rhegwyr, pethau y rhagorai Owen Tomos Rolant ynddynt ar bawb yn y fro. Teimlodd ofn yn ei lethu, ac wylodd yn ei ing. Wrth wrando yn ddiweddarach ar William Risiart Sion, " pre- gethwr tanllyd o'r Deheudir," yn pregethu ar y geiriau, Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid," cafodd ollyngdod llawn i'w feddwl, a daeth yn ddyn newydd. Aeth ar fore Saboth y Pasc i'r Cymun i eglwys y plwyf. Yr oedd y gynulleidfa newydd fyned i mewn, ar ôl bod yn chwarae campau yn y fynwent. Gwaeddodd y gôf, ar uchaf ei lais, ym mhorth yr eglwys: "Cymun y saint ydyw hwn, bobol! Edrychwch ati, beth ydych yn ei wneud!" Dro arall pan yn cymuno yno, torrodd allan i orfoleddu; cynhyrfodd yr offeiriad gymaint

[2]

  1. Awdur yr emyn
    "Dacw'r deg gorchymyn pur
    Ar Galfaria.
    Dywaid "Methodistiaeth Môn " mai ef hefyd oedd awdur y pennill
    "Blant afradlon, at eich Tad
    Dowch a chroesaw."
  2. Dywedir yn "Nrych yr Amseroedd" mai Peter Williams oedd y pregethwr. Ceir hanes iddo bregethu yn yr ardal.