Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel y collodd y gwin ar y bwrdd ac ar y llawr, a bygythiai roddi'r terfysgwr" yng ngafael "llys Bangor am halogi'r eglwys!" Dechreuodd bregethu oddeutu pum mlynedd wedi ei droedigaeth. Ar y cyntaf ni wnaed rhagor na'i wawdio, a dywedir i offeiriad y plwyf, ynghyda " gwraig foneddig yn y gymydogaeth," gyfansoddi cân i'w ddirmygu, ac anfonwyd copi ohoni i bob tŷ yn yr ardal. Coffheir un o'r penillion:

"Mae'r gôf wrth bwyntio'i hoelion,
Yn tybied yn ei galon
Ei fod yn well ei ddysg a'i ddawn
Na llawer iawn o 'sgobion."

Erbyn hyn yr oedd amryw eraill yn yr ardal wedi uno â'r Methodistiaid, a gwysiwyd hwy, ddeunaw mewn nifer, i ymddangos gerbron goruchwyliwr Arglwydd Boston, y tir-feddiannwr, ym Mhlâs Llugwy. Safai'r goruchwyliwr â phapurlen fawr yn ei law, ar yr hon, fel y dywedai, yr oedd "gorchymyn ei feistr wedi ei ysgrifennu, a rhybuddiodd hwy oni adawent y "pennau cryniaid " y troid hwy o'u tyddynod yn ddiatreg. Dechreuodd un ohonynt, Rhisiart Williams, Tyddyn Bach ("Dic y Tan "), orfoleddu, a dawnsio yn ei glocsiau ar lawr y Plâs, nes gwelwi o wynebau'r offeiriad a'r goruchwyliwr. "Bendigedig! Hosana!" llefai'r hen frawd, gan daflu ei het ar y llawr; gwerthu Teyrnas am dyddyn! Na wnaf byth!"

Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1768 neu 1769. Er colli ei dyddyn, yr oedd gan y gôf ei grefft i syrthio'n ôl arni; ond gymaint oedd llid ei erlidwyr fel y rhybuddiasant holl amaethwyr yr ardaloedd o amgylch i beidio â rhoddi gwaith iddo ar berygl colli eu tyddynod. Wedi brwydro yn ddewr â'r amgylchiadau creulon hyn am flwyddyn neu ragor, suddodd i dlodi; gorfodwyd ef i ymado â Môn, a daeth i Liverpool i ymofyn gwaith. Ymgysylltodd ag eglwys y Wesleaid Saesneg yn Pitt Street, er mai cyfyng oedd ei wybodaeth o'r iaith Saesneg. Dangosodd y frawdoliaeth yno bob cydymdeimlad ag ef, a charedigrwydd tuag ato. Wedi deall ei fod yn arfer pregethu yn ei wlad ei hun, a bod nifer o Gymry, uniaith bron, yn y dref, rhoddasant ganiatad iddo i bregethu yn eu capel hwy i'w gyd-genedl yn eu hiaith eu hun, yr hyn a wnaeth,