Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel yr adroddwyd, yn y flwyddyn 1770. Ni bu ei arhosiad yn Liverpool y tro hwn yn faith, oddeutu naw mis; ond ymddengys iddo ymweled â'r dref rai gweithiau ar ôl hyn; dywedir bod iddo ferch yn byw yno; ond nid oes unrhyw wybod- aeth iddo bregethu yn y dref ar ôl yr oedfa y cyfeiriwyd ati yn awr.

Cymeriad lled arw oedd Owen Tomos Rolant; a garw, fel ei hunan, oedd ei bregethau. Yr oedd ei gymariaethau yn rhai tra chyffredin a chartrefol, ac yn fynych yn isel a di-chwaeth. Adroddir iddo, wrth ddychwelyd unwaith o Liverpool i Fôn, gan gerdded yr holl ffordd, ac ef yr adeg honno yn chwech a thrigain oed, bregethu yn y Gatehouse, gerllaw Bangor. Ei gyfarchiad cyntaf i'r gynulleidfa oedd hyn: "Yr wyf wedi cerdded yr holl ffordd o Liverpool, ac wedi blino fel pe bawn i wedi bod yn hela petris. Lle rhyfedd ydi Liverpool! Wyddoch chi,-mae yn Liverpool dai a thri uchtwr llofft! Ond beth ydyw rhyfeddodau Liverpool i ryfeddodau'r iachawdwriaeth!

O iachawdwriaeth rasol,
Rhyfeddod wyt i gyd!"

Y mae amryw o'i ddywediadau ar gael heddiw ym Môn. Credai yn gryf mewn Etholedigaeth, fel y gwelir oddiwrth y sylw a ganlyn o'i eiddo: "Pe gweddiai dyn nes byddai ei bennau gliniau fel carnau ceffylau, chaiff o byth fynd i'r nefoedd os na fydd o wedi ei ethol!" Oddeutu diwedd ei oes, ymddiddanai John Elias ag ef mewn Cyfarfod Misol yng Nghaergybi: "Dywedwch air wrthym, Owen Tomos; a dywedwch o'n reit ddifrifol; peidiwch â'n gyrru ni i chwerthin." "Difrifol ?" atebodd yr hen frawd, "mi fyddai mor ddifrifol a phe bawn i ar fedd fy nain!" Aeth John Elias ymlaen i'w holi: "Ydach chi'n hoff o Iesu Grist, Owen Tomos bach ?" "Fel cath am lefrith!" ebe'r hen bregethwr. Adroddir iddo ar un achlysur, pan yn pregethu yn yr awyr agored ar gyflawnder darpariaeth yr Efengyl, ac yn methu â gosod allan fel y dymunai y digonolrwydd di-derfyn sydd ynddi, ddywedyd: Meddyliwch!" ebe, gan bwyntio a'i fys at fynyddoedd Sir Gaernarfon oedd i'w gweled dros y Fenai; "meddyliwch! pe