Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddai'r mynyddoedd yna i gyd yn datws; a'r môr yna i gyd yn llaeth:—dyna i chi datws llaeth! Ond beth ydi hynny i'r cyflawnder sydd yn yr Efengyl!" Dyma'r gŵr a fu'n pregethu yn Gymraeg gyntaf yn Liverpool. Ni ellid cwestiyno ei onestrwydd; profwyd ef trwy dân. Pregethodd lawer yn ei Sir enedigol, ac erlidiwyd a baeddwyd ef yn ddidrugaredd. Dygai yn ei gorff nodau yr Arglwydd Iesu. Dichon bod ei weinidogaeth, er gerwinder ei eiriau a chyffredinedd ei gymariaethau, yn gwbl addas i chwaeth a chyraeddiadau ei oes. Terfynodd yr hen wron ei yrfa yng nghymdogaeth Caergybi,[1] wedi blynyddoedd maith o ffyddlondeb di-ball a llafur diarbed, na bu, yn sicr, yn ofer na di-ffrwyth.

Ym "Methodistiaeth Cymru," cysylltir ag enw Owen Tomos Rolant, enw gŵr ieuanc o'r un gymdogaeth, Hugh Evan, mab Evan Dafydd, Ty'n llan, Penrhos Llugwy. Pan ymunodd Hugh Evan â'r ychydig Fethodistiaid a gyfarfuent yng Ngherrig Llithir (y tŷ bychan yn yr hwn yn ddiweddarach y cynhaliwyd Cyfarfod Misol cyntaf Môn), nid oedd ond dwy ar bymtheg oed. Cyn ffyrniced oedd yr erlid ar y Methodistiaid yn yr ardal hon, fel, pe rhoddai neb o'r tenantiaid lety neu loches i un ohonynt, er iddo fod yn aelod o'r teulu, collai ei dyddyn yn ddioed. Yn hytrach gan hynny nag i'w deulu ddioddef o'i achos ef, daeth y bachgen i Liverpool; ond wedi i'r ystorm dawelu ychydig dychwelodd i'w fro enedigol. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Symudodd i fyw i'r Ty Moel. Bu'n flaenllaw gyda'r achos hyd ddiwedd ei oes, ac yn un o flaenoriaid cyntaf eglwys Llanallgo. Ni wyddom ddim o'i hanes yn ystod ei arhosiad yn Liverpool, ond tebygol yw ei fod yn un o'r gynulleidfa a wrandawai'r bregeth Gymraeg gyntaf yn y dref, a draddodwyd gan ei hen gymydog, oherwydd ceir i'r ddau ddyfod i'r dref oddeutu'r un adeg â'i gilydd, os nad, fe ddichon, gyda'i gilydd.

Er nad oedd a wnelo y Diwygiad Methodistaidd yn union gyrchol â dechreuad Methodistiaeth Gymreig yn Liverpool,

  1. Dywedir iddo fod yn byw am dymor gyda'i ferch mewn lle a elwid y Cytir, a bu farw yng Nghapelulo, hen dŷ oedd y pryd hwnnw yn agos i'r fan lle saif capel Ebeneser, Caergybi, yn awr.