Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto dynion a ddaethent o dan ddylanwad y Diwygiad hwnnw oedd y rhai a roisant fod i Fethodistiaeth yn y dref. Heb inni fyned yn ôl yn awr ymhellach na Chymdeithasfa Watford (1743), cychwynasai Methodistiaeth ei gyrfa yng Nghymru ddeugain mlynedd cyn ei chychwyniad yn Liverpool; gwelir iddi gychwyn yn Liverpool drachefn lawn ugain mlynedd o flaen yr un Cyfundeb Cymreig arall. Dynion, fel yr awgrymwyd, ac fel y ceir gweled eto ymhellach, a ddioddefasant oherwydd eu crefydd yn eu gwlad eu hun oedd y prif offerynau a ddefnyddiwyd i gychwyn yr achos Methodistaidd o fewn i'r dref. Gwawdiwyd hwy, erlidiwyd hwy, gorthrymwyd hwy yn ddi-drugaredd yn eu gwlad eu hun; trowyd hwy o'u tyddynod a'u cartrefi; cymerwyd moddion eu cynhaliaeth o'u dwylo, fel nad oedd iddynt ddewis ond gadael eu gwlad, a cheisio rhyddid i addoli Duw yn ôl eu cydwybod, ymysg estroniaid a phobl anghyfiaith. Ni cheir bod unrhyw ymgais wedi ei wneud i ddarpar moddion crefyddol ar eu cyfer am rai blynyddoedd wedi oedfa Owen Tomos Rolant. Bychan oedd eu nifer yr adeg yma, a dichon eu bod hefyd yn ansefydlog, oherwydd ceir bod rhai ohonynt o bryd i bryd, yn dychwelyd i'w hen wlad wedi i ffyrnigrwydd cyntaf eu herlidwyr liniaru ychydig. Yn y flwyddyn 1782, fodd bynnag, dechreuodd yr ychydig wasgaredigion ymgrynhoi at ei gilydd, ac arweiniwyd i hynny gan yr amgylchiadau a adroddir yn awr. Ymysg y Cymry oedd yn y dref y pryd hwnnw, yr oedd dau wr ieuanc oedd yn amlwg o ysbryd crefyddol dwfn, ac yn hiraethu am gymdeithas pobl Dduw. Tebygol yw mai cyfyng oedd eu gwybodaeth o'r Saesneg,—rhy gyfyng i fwynhau gwasanaeth crefyddol ynddi. Adroddir iddynt gytuno â'i gilydd i fyned ar fore Saboth allan o'r dref "i'r wlad," er cael tawelwch i gyd-ymddiddan am bethau crefyddol. Daethant at gloddfa gerrig fawr a henafol, a safai ar fan a elwid ar y cyntaf "Mount Zion," ond a alwyd yn ddiweddarach St. James' Mount. Lle safai'r gloddfa gerrig y pryd hwnnw y saif Mynwent St. James' yn awr, ac yn gyfagos iddi Brifeglwys (Cathedral) fawreddog y ddinas. Oddiar ben y bryncyn hwn ceid yn y blynyddoedd hynny yr olygfa harddaf, fe ddywedid, o un man yn y dref. Islaw, gorweddai'r afon, yn ymestyn o'r