Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tudraw i Eastham allan i'r môr; yr ochr draw gwelid gor-ynys Cilgwri (Wirral Peninsula) yn orchuddiedig gan goed, ac heb odid dŷ i'w weled yn unman, lle ceir heddiw drefi poblog.[1] Heibio'r gor-ynys ceid cipolwg ar rannau o'r Ddyfrdwy lydan, ac yn y pellter gwelid yn glir fynyddoedd a chyrrau agosaf Cymru. Nid anodd, fe ddichon, a fyddai dychmygu teimladau hiraethlawn y ddau Gymro ieuanc pan safent ar fore Saboth clir gerllaw'r gloddfa gerrig ar ben St. James' Mount, yn edrych i gyfeiriad gwlad eu genedigaeth."[2]

O fewn i'r chwarel gwelsant gaban,—"tŷ bwyta " y gweithwyr, a'r lle yr arferent gadw eu harfau dros nos.[3] Aethant i mewn iddo, ac wrth ymddiddan a chyd-weddïo, cawsant y fath ymdeimlad hyfryd o agosrwydd yr Hwn a addawodd lle byddo "dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt," fel y penderfynasant fyned yno drachefn y Saboth dilynol. Cawsant afael ar ddau ŵr arall o dueddfryd gyffelyb. Dros ba hyd y bu'r pedwar yn cydgyfarfod fel hyn yn y caban, nid yw'n hysbys";[4] ond wedi profi eu hunain felyster y gymdeithas, dechreuasant feddwl am eraill o'u cydgenedl a allent fod yn y dref mewn hiraeth am yr un fraint.

Ymddengys bod un o'r dynion hyn yn gydnabyddus â gŵr o'r enw William Llwyd, a drigai yn Pitt Street, y cwr agosaf o'r dref i'r fan lle yr ymgyfarfuent. Nid yn unig yr oedd yn Gymro, ond yr oedd yn ŵr crefyddol a phrofiadol. Er pan

  1. Dywaid Corfannydd pan oedd ef yn fachgen, dyweder oddeutu 1815, nad oedd ragor nag ugain o dai i'w gweled o New Ferry i New Brighton.
  2. O'r chwarel hon, St. James' Quarry, y cafwyd meini ar gyfer adeiladu'r Town Hall, Eglwys St. Paul, a llawer o adeiladau cyhoeddus y dref. Ar un adeg yr oedd yn y gymdogaeth rodfa boblogaidd, St. James' Walk, ac yn gyfagos iddi dafarn fawr, ynglŷn â'r hon yr oedd gerddi a phob darpariaeth ar gyfer chwaraeon a rhialtwch. Teimlwyd bod cysylltu enw'r dafarn â "Mount Zion" yn ieuad rhy anghymarus, ac ysgrifennodd rhywun,—"a Welsh minister," medd un hanesydd, gân yn gwawdio'r Maer a'r Cynghorwyr oherwydd codi ohonynt "allor i Bacchus ar Fynydd Seion." Arweiniodd hyn i newid yr enw i St. James' Mount. Erbyn 1825 yr oedd y chwarel wedi ei gweithio allan, ac yn 1828 gwnaed y fan yn gladdfa gyhoeddus.
  3. Dywedir yn "Enwogion Cymru" (Foulkes) i John Gibson, yr arlunydd, osod cerf-ddelw William Huskisson, sydd i'w gweled heddiw, yn union ar y fan lle safai caban y gweithwyr gynt.
  4. Yn ol Pedr Fardd am "ddau Saboth neu dri" y parhausant i fyned yno.