Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaethai i Liverpool mynychasai gapel y Wesleaid Saesneg oedd wrth ymyl ei dŷ. Aeth y gwŷr ieuanc ato i ymgynghori ag ef. Mawr oedd ei lawenydd o glywed am eu dymuniad i gasglu ynghyd eu cyd-genedl yn y dref, iddynt gael cyd-addoli Duw yn yr iaith yn yr hon y'u ganed. Gwahoddodd hwy yn gynnes i gyfarfod yn ei dŷ ef y Saboth dilynol. Aed i ymholi am Gymry eraill, a daeth cwmni a rifai oddeutu deuddeg ynghyd. Cynhaliwyd cyfarfod gweddi. Yn dra ffodus y mae enwau'r tri a gymerasant ran yn y cyfarfod gweddi cofiadwy hwn wedi eu cadw: William Llwyd, sef gŵr y tŷ; Owen William Morgan, meistr llong fechan; ac Israel Matthew, un o ddwylo'r llong, y ddau hyn o Sir Fôn, a'u llong yn digwydd bod yn y porthladd ar y pryd.

Hwn ydoedd y gwasanaeth crefyddol cyntaf a gynhaliwyd gan y Methodistiaid Cymreig yn Liverpool, ac i'r cyfarfod gweddi bychan hwn yr ydym i olrhain dechreuad Methodistiaeth y dref. Rhaid aros, gan hynny, i adrodd yn fanylach amdano,-am y lle y'i cynhaliwyd, a'r dynion oedd a rhan yn ei drefnu ac yn ei gynnal.

Nid oes wybodaeth fanwl am ddyddiad y cyfarfod, heblaw mai rywbryd yng nghorff y flwyddyn 1782 y cynhaliwyd ef. Am y fan lle y'i cynhaliwyd,—yn y Directory am y flwyddyn 1790 rhoddir cartref William Llwyd fel a ganlyn: "back of 92 Pitt Street." Tŷ bychan ydoedd, tŷ gweithiwr tlawd; a bechan oedd yr ystafell y cynhaliwyd y cyfarfod gweddi ynddi, oddeutu pedair llath ysgwar. Wrth gyfeirio at y tŷ, dywaid Corfannydd ei fod "yn y court nesaf o'r cwrr isaf i gapel y Wesleaid." Dywaid ymhellach iddo fyned i edrych am yr hen dŷ oddeutu Nadolig 1868, pan ar ymweliad â Liverpool; "ond Ow! fel llawer o bethau eraill, nid oedd mwyach. Cefais ef wedi ei dynnu i lawr, a siop wedi ei chodi yn ei le. Fel y gwypo pawb am y lle, rhif y siop yw 38 Pitt Street, a'r drws nesaf i gapel y Wesleaid wrth fyned i fyny yr heol."[1]

  1. " Y Tyst Cymreig." Ionawr 22, 1869. Gwelir bod ail-drefnu rhif y tai, etc., er pan gyhoeddwyd Directory 1790. Erbyn heddiw y mae'r Capel Wesleaidd, oedd mor gysegredig ei gysylltiadau a'i atgofion, wedi ei dynnu i lawr, ac ar y fan saif yn awr adeilad o eiddo'r Gorfforaeth.