rwst ydoedd. Dygwyd ef i fyny yn grydd. Ymunasai â'r Methodistiaid yn ei gartref yn Llanrwst, a daeth ef a chyfaill iddo yn fuan wedi hynny i Liverpool i geisio gwaith. Ni wyddom a fu gan erledigaeth ran yn eu dyfodiad i'r dref, ond credwn, yn wyneb yr hyn a adroddir ymhellach, fod hynny yn dra thebygol. Dychwelodd Owen Owens i Lanrwst; pa mor fuan nid yw'n hysbys, ond y mae sicrwydd iddo fod yn Liverpool am o leiaf dair blynedd. Dechreuodd fasnach esgidiau yn ei dref enedigol, a bu'n llwyddiannus ynddi. Dewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys, a dywedir bod ganddo "ddoniau cyhoeddus," yn arbennig ddawn gweddi. Anfonasid ef a chyd-swyddog, Evan Owen, gan eglwys Llanrwst, pan adeiledid eu capel cyntaf, i Gyfarfod Misol Sir Fflint i ofyn cymorth tuag at y draul; ac a gawsant gerydd llym," ebe'r Cofnodion, yn lle cymorth!" Dengys yr apwyntiad, fodd bynnag, fod iddo safle o barch ac ymddiried yng ngolwg yr eglwys pan anfonid ef ar genadwri mor bwysig. Ceir ei enw drachefn ymysg y rhai a arwyddodd Weithred Gyfansoddiadol y Corff,—
"Owen Owens, Star, Llanrwst, Inn-keeper." Er gofid i'r eglwys dirywiodd yn ei flynyddoedd olaf. Bu farw ei rieni; ymgymerodd yntau a gofal y dafarn, ond methiant a fu'r anturiaeth. Am dymor lled faith collodd ei aelodaeth eglwysig; suddodd hefyd i dlodi. Cyn terfyn ei oes daethai yn ôl i'r eglwys, ond ni ad-feddiannodd byth yr hyn a gollasai gynt. Claddwyd ef ym mynwent plwyf Llanrwst, Hydref 19eg, 1842, yn 80 mlwydd oed. Ganed ef felly yn y flwyddyn. 1762, ac nid oedd, gan hynny, ond bachgen ieuanc ugain oed pan gynorthwyai i gychwyn yr achos Methodistaidd yn Liverpool yn y flwyddyn 1782.
Pwy oedd y pedwerydd o'r gwŷr ieuanc a fu'n foddion i ddechrau yr Achos Cymraeg yn y ddinas? Ni ellir heddiw ond dyfalu. Ac eto credwn bod sail pur gadarn i'r dyfaliad a ganlyn. Oddeutu'r un adeg ag y daeth Owen Owens i Liverpool, daeth gŵr ieuanc arall yno, o gymdogaeth gyfagos iddo. Ymunasai yntau â'r Methodistiaid, ac arferai fyned yn gyson, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, i Lanrwst ar y Sabothau i wrando. Yr oedd Owen Owens ag yntau oddeutu'r un oedran. Anodd credu y gallai'r ddau ŵr ieuanc hyn fod yn ddieithr