Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w gilydd, yn arbennig gan na fuasai'r gymdeithas Fethodistaidd yn Llanrwst yr adeg honno ond bechan. Nid annaturiol ychwaith yw meddwl bod mynediad y naill i Liverpool wedi dylanwadu ar y llall i'w ddilyn; a phan dueddwyd Owen Owens i fyned i gaban y chwarelwyr, iddo fyned a'i gyfaill gydag ef. Y gŵr ieuanc y cyfeiriwn ato ydyw'r hwn a ddaeth yn adnabyddus mewn blynyddoedd diweddarach fel Evan Roberts, Dinbych, y gŵr rhagorol, a gwresog ei ysbryd, a fu'n foddion i sefydlu yr Achosion Wesleaidd Cymreig cyntaf yng Nghymru, ac a lafuriodd yn egnïol fel pregethwr cynorthwyol am ragor na hanner canrif. Yr oedd brawd hynaf Evan Roberts eisoes yn Liverpool, ac wedi profi yn helaeth o ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Yr oedd hefyd yn gydnabyddus â William Llwyd. Ar ei ymweliad â chartref, perswadiodd Evan i ddyfod gydag ef i wrando un o bregethwyr y Methodist- iaid, John Pritchard o'r Fryniog. Rhoddodd dylanwad y weinidogaeth gyfeiriad newydd i'w fywyd. Y pryd hwn yr oedd Evan Roberts yn brentis gydag asiedydd; ni ddywedir ymha le, ond dywaid ef yr arferai " gerdded yn gyson i Lanrwst, saith milltir o ffordd," i wrando ar y Sabothau. Yr oedd ei dad yn wrthwynebol iawn iddo ymuno â'r Methodistiaid, a'i feistr hefyd. Yn ei ddicter, trawodd ei feistr ef yn greulon â darn o bren, a phenderfynodd yntau ffoi a'i adael, a dyfod i Liverpool at ei frawd. Arferai ei frawd fynychu y capel Wesleaidd Saesneg yn Pitt Street, yr un capel ag a fynychai William Llwyd, ac aeth Evan Roberts gyda hwy. Anodd credu y gallai'r ychydig Gymry a fynychent yr addoldy hwn fod yn ddieithr i'w gilydd; ac onid naturiol yw meddwl, os oedd Evan Roberts yn gyfeillgar ag Owen Owens, fel mae'n ddiamau ei fod, mai ef a arweiniodd y gwŷr ieuanc eraill at William Llwyd, fel y gŵr mwyaf tebygol i fedru eu cynorthwyo a'u cyfarwyddo? Nid yw hyn, fodd bynnag, ond dyfaliad; fel y dywedwyd, ni feddwn sicrwydd heddiw ond am enw un yn unig o'r pedwar yr arweiniodd eu cyd-gyfarfyddiad â'i gilydd, mewn lle mor ddinod ac o dan amgylchiadau mor eithriadol, i ganlyniadau mor fawr ac mor fendithiol yn hanes ein cyd-genedl yn Liverpool.

Haedda William Llwyd, y gŵr a groesawodd Arch Duw