Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobl,—tyrfa eithriadol yr adeg honno, yn arbennig pan gofir nad oedd nifer y Cymry yn y dref ond bychan. Y mae'n amlwg bod William Llwyd yn bur adnabyddus ac yn fawr ei barch. Gwnaed cyfeiriad at ei farwolaeth yn "Gore's General Advertiser," Mawrth 8fed, 1810, a hefyd, yn yr un geiriau, yn "Billing's Liverpool Advertiser," Mawrth 12fed: "On Thursday night, age 76: W. Lloyd, hosier, late of Union Street; much respected and regretted by his many numerous acquaintances and friends."

Oddiwrth ei Atgofion, a gyhoeddwyd yn yr "Eurgrawn Wesleaidd," 1835, gwelir i Evan Roberts, Dinbych, ddyfod i gydnabyddiaeth agos â William Llwyd; ac ef yn unig, hyd y gwelsom, sy'n crybwyll dim am ei nodweddion personol. O ran eu golygiadau athrawiaethol deuai'r ddau i wrthdrawiad yn fynych. Disgrifia Evan Roberts ef fel "dyn tanllyd yn ei sêl a'i dymherau. Digwyddodd un diwrnod i fy mrawd, ac yntau, a minnau, ymddiddan am bethau crefyddol, pryd y dywedais fy mod yn credu y gall y credadun, trwy ffydd, beidio â phechu, a byw i Dduw. Taw, a thaw yn sydyn!' ebe William Llwyd, yr oedd Dafydd yn ddyn yn ôl calon Duw, ac fe bechodd.' Yna efe a aeth i wylltineb mawr, a'i natur ddrwg a gyfodasai yn ddychrynllyd. Ni ddywedais ddim wrtho, canys nid oeddwn ond ieuanc mewn dyddiau ac mewn crefydd; ond aethum i'r dirgel i weddïo, a phenderfynais yn fy meddwl nad awn i'w gyfeillach byth mwyach." Y mae'n amlwg, fodd bynnag, i'r ddau gymodi drachefn, oherwydd dywaid Evan Roberts yn ddiweddarach iddo fyned i letya ato yn Pitt Street. Ond nid hir y buont cyn dyfod i wrthdrawiad eilwaith; ac wedi i bregethwyr o Gymru ddechrau dyfod i'r dref, y rhai a letyent yn wastad yn nhŷ William Llwyd, byddai Evan Roberts yn dadlau â hwy, yr hyn a arweiniodd i William Llwyd fy rhybuddio y byddai raid imi ymadael â'i dŷ ef ac ymofyn llety mewn rhyw le arall, onide na ddeuai pregethwyr ddim i'w dŷ ef os byddwn i yno, gan fy mod yn dadleu â hwy yn erbyn pechod. Ymadewais o dŷ William Llwyd, a chefais lety parchus gydag un o'r aelodau drachefn."

Gŵr syml a duwiol ydoedd William Llwyd, a bodlon i fyned ei hunan o'r golwg, megis yr aeth pan ddechreuodd yr Achos