Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynyddu. Tebygol yw na feddai ar lawer o ddawn gyhoeddus; ni ddaw ei enw i'r amlwg mewn unrhyw hen gofnodion. Treuliodd naw mlynedd ar hugain yn y dref, a pharhaodd ei gysylltiad â'r Achos y bu'n offeryn i'w sylfaenu hyd y diwedd. Ef yn ddiau ydoedd blaenor cyntaf y Cyfundeb yn Liverpool, er y dywaid Corfannydd na ddewiswyd ef yn flaenor, eto efe a weithredai felly bob amser. Adwaenwn yr hen William Llwyd yn eithaf da.... Ei le i wrando bob amser (yn hen gapel Pall Mall) oedd ar risiau y pulpud (wrth ochr y pregethwr, oherwydd ei fod bellach yn drwm ei glyw). Er mai efe a ddechreuodd yr Achos ni bu erioed yn flaenor swyddol."[1]Yn ei dŷ ef y parhawyd i gynnal y moddion crefyddol, a hynny, yn ôl tystiolaeth Pedr Fardd, deirgwaith bob Saboth, hyd onid aeth yr ystafell yn rhy gyfyng. Ef hefyd a ofalai am bregethwyr, ac a'i lletyai. Cydunodd Henaduriaeth Sir Fflint a Henaduriaeth Liverpool i godi Cof-golofn i'w goffadwriaeth ef, Sylfaenydd Methodistiaeth Liverpool, ac i goffadwriaeth Tad Methodistiaeth Fflint,—John Owen y Berthen, y ddau wedi bod " yn cyd-oesi, yn cyd-addoli, ac yn cyd-ddioddef " am flynyddoedd lawer. Codwyd y gof-golofn o flaen eu hen gapel yn y Berthen Gron, a dadorchuddiwyd hi ddiwedd. Mehefin, 1923. Cofgolofn fwyaf parhaol William Llwyd, fodd bynnag, ydyw eglwysi Liverpool.

Adroddwyd mai dau ŵr o Fôn a gymerai ran yn y cyfarfod gweddi cyntaf yn 92 Pitt Street, heblaw William Llwyd ei hun,—Owen William Morgan ac Israel Matthew. Ni bu Owen William Morgan erioed yn byw yn Liverpool, ond deuai i'r dref yn fynych, ac arhosai ar brydiau am amryw wythnosau. Tystir iddo fod yn gryn gymorth i'r Achos yn ei gychwyniad, ac am amryw flynyddoedd ar ôl hynny. Mynychai bob moddion crefyddol, a rhoddai'r frawdoliaeth groeso cynnes iddo, a

  1. "Y Tyst Cymreig," Hydref 16, 1868. Yr hyn a olygir mae'n ddiau ydyw na bu dewisiad ffurfiol arno yn ôl y drefn a arferid mewn blynyddoedd diweddarach, ond cydnabyddid ef gan yr eglwys fechan, er ei dechreuad, yn arweinydd a blaenor iddi. Gesyd Samuel Jones yn briodol ei enw yn gyntaf ar restr blaenoriaid Liverpool. (Gwel y Drysorfa, 1863, t.d. 418). Cyfeirir hefyd yng Nghofiant y Parch. Thomas Hughes, Liverpool, a gyhoeddwyd gan John Jones, Castle Street (1829), at William Llwyd fel "tad yr achos crefyddol ym mhlith y Trefnyddion Calfinaidd yma, a'r hwn a fu yn henuriad ffyddlon a gofalus hyd nes y gorphenodd ei yrfa."