Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lle amlwg yn eu cyfarfodydd. Capten llong fechan a elwid "Pennant" ydoedd, ac ef hefyd oedd ei pherchennog. Deuai o'r gymdogaeth agosaf i Benrhos Llugwy, cartref Owen Tomos Rolant, sef o blwyf Llanallgo. Cadwai siop fechan yn Nant Bychan (neu Nant Brychan) yn wynebu Bae Moelfre. Safai'r siop ynghanol caeau, heb brif-ffordd yn nes na hanner milltir iddi. Defnyddiai ei long i bwrpas ei fasnach. Deuai i Liverpool i brynu nwyddau, a chludai lwythi o lô i'w iard yn y Traeth Bychan.

Cyfrifid Capten Morgan yn gymeriad cryf a dwfn grefyddol. Bu iddo ran nid yn unig yng nghychwyniad yr achos yn Liverpool ond hefyd yn Llanallgo, Môn. Dechreuwyd yr achos yn yr ardal honno mewn tŷ a elwid Y Gell. Yno, meddir, yr oedd ef yn byw ar un adeg, ac arferai gasglu ei gymdogion ynghyd i'w dŷ i gynnal cyfarfodydd gweddi. Nid oedd ei dŷ ymhell o'r groesffordd lle cyfarfuai ieuenctid yr ardal. Elai atynt, ac arweiniai hwy i mewn, a dysgai hwy i ddarllen. I'r un amcan ymwelai â thai ei gymdogion, i'w dysgu i ddarllen, ac i esbonio'r Ysgrythyrau iddynt. Adroddai y diweddar Barch. William Pritchard, Pentraeth, iddo glywed gan y Parch. William Williams, Ty Calch—gŵr a feddai bob cyfleustra i wybod, oherwydd ei fod yn enedigol o'r fro, a'i dad yn gydnabyddus â'r Capten Morgan—y digwyddai yn lled fynych yn nechreuad yr achos yn Y Gell na byddai neb ond y Capten ei hun i gymryd rhan yn y cyfarfodydd. Ond ni ddigalonnai. Wedi dechrau'r cyfarfod drwy ganu, a darllen, a gweddio, rhoddai emyn drachefn, ac wedi canu honno, dywedai, "Ni a weddïwn eto." Yna, emyn arall, a thrachefn clywid yr hysbysrwydd: "Ni a weddïwn eto." Ac felly hyd ddiwedd y cyfarfod. Mewn rhai cyfarfodydd gweddïai ei hunan bedair gwaith, yn hytrach nag i'r gynulleidfa fyned allan heb gael gwasanaeth a ystyriai ef yn deilwng.

Adroddai Mr. Hugh Jones, Llain Farged, at yr hwn y cyfeiriwyd yn barod, i'w dad, pan yn blentyn saith neu wyth oed, weled yr hen Gapten: "Safai ar ben y bonc yn agos i'r fan yr aeth y Royal Charter i lawr lawer blwyddyn ar ôl hynny, yn edrych allan i'r môr, am ryw arwydd o'i long yn dychwelyd i'r Bae. Erbyn hyn, yr oedd yr hen wr wedi retirio o'r môr,