Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a rhoddi ei long yngofal y mate, John Lloyd. Yr oedd gennyf ffon, a thipyn o linyn yn fy llaw; cymerodd yr hen Gapten hwy, a gwnaeth chwip imi. Yr hyn a dynnodd fy sylw fwyaf, fel plentyn, oedd lled anarferol ei drowsus, a hefyd, yn arbennig, ei wallt yn hongian yn blethen fawr i lawr ei gefn, yn ôl arfer llawer o'r hen forwyr yn y blynyddoedd hynny."

Adroddir i'r Capten Morgan ar un achlysur gael ei gadw yn Liverpool am chwech wythnos gan wynt croes. Ymhen yr ail wythnos o'i arhosiad, codasai gwynt ffafriol; ond yr oedd hynny ar y Saboth, ac ni wnai ef amharchu dydd Duw drwy droi allan ar y Saboth. Bore dydd Llun trodd y gwynt yn ôl drachefn, yn wynt croes a chryf. Parhaodd felly am bythefnos arall. Newidiodd drachefn yn wynt teg, ond y Saboth oedd hi yr ail waith! Hwyliodd yr holl longau eraill o'r porthladd, gan ei adael ef ei hunan. Profedigaeth dost ydoedd iddo, a golygai hefyd gost nid bechan i gadw'r llong yn y doc am gynifer o wythnosau, a thalu cyflog y dwylo, a hwy yn segur. Pan gymhellwyd ef i hwylio ymaith gyda'r lleill, atebodd ei fod am ymddiried yn Nuw, doed a ddelo; mae Ef yn gwybod sut i drin y byd, a sut i drin dynion, yn well na neb arall." Ni chafwyd gwynt teg hyd fore Llun y seithfed wythnos, ac ymaith â'r "Pennant" fach yn llawn hwyliau, a'r hwyliau yn llawn gwynt. Cyrhaeddodd Foelfre cyn y nos. Dadlwythodd y Capten ei long gyda'r wawr drannoeth, a rhoddodd lwyth arall ynddi i fynd yn ôl i Liverpool. Cyrhaeddodd yno cyn y nos y diwrnod hwnnw, dadlwythodd, a llwythodd drachefn, ac yn ôl i Foelfre heb golli moment; a rhyfedd adrodd, gwnaeth ddwy siwrnai am un i'r holl longau a gychwynasent o'i flaen, rai fis, a rhai bythefnos; oherwydd daliesid hwy i gyd gan yr un gwynt croes, rhai yn Hoylake, rhai yn Llandudno, ac eraill yng Nghonwy. Soniai yr hen frawd am y tro rhyfedd hwn hyd ddiwedd ei oes. Bendithiwyd ef â hir ddyddiau; bu farw ddiwedd Ionawr, 1832, o fewn pum mlynedd i'w gant oed, a chladdwyd ym mynwent Llanallgo. Bu ef a Hugh Evan (y gŵr ieuanc y crybwyllwyd amdano eisoes, a ffodd i Liverpool oherwydd erledigaeth), yn flaenoriaid yn yr eglwys yn Llanallgo, ac yn y Waun Eurad cyn hynny (Glasinfryn yn awr) cyn dechrau yr achos yn Llanallgo. Cyfeiria Pedr