Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fardd at yr hen wron gyda pharch ac anwyldeb neilltuol, a haedda ei enw goffhad anrhydeddus fel gŵr a roddodd gymorth tra gwerthfawr i'r Achos Methodistaidd yn Liverpool yn nyddiau ei fabandod.

Crybwyllwyd enw Israel Matthew, un o ddwylo y "Pennant, fel un a gymerodd ran yn y gwasanaeth cyntaf a gynhaliwyd yn nhŷ William Llwyd. Gŵr, fel y tybir, o gymdogaeth Pont Rippont, Rhoscolyn, Môn, ydoedd ef. Ceir, fodd bynnag, fod rhai o'i deulu wedi ymsefydlu yn ardal Llanallgo, a dichon iddo yntau fod yn byw yno, ac mai felly y daeth i gyfarfyddiad â'r Capten Morgan.[1]

Ni chrybwyllir enw Israel Matthew ym "Methodistiaeth Cymru," ond yn ei anerchiad ar ddathliad Canmlwyddiant yr Achos, wedi crybwyll enwau William Llwyd ac O. W. Morgan fel dau y gwyddid amdanynt a gymerai ran yn y cyfarfod gweddi hwnnw, dywedodd Dr. Owen Thomas: "Mae gennyf enw un arall oedd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth hwnnw, ac yr wyf yn meddwl y bydd hyn yn newydd i lawer ohonoch. Israel Matthew ydoedd enw y llall, a dyn o Sir Fôn ydoedd yntau." Yn niwedd ei oes cadwai iard lô yng Nghaergybi. "Yr wyf yn cofio clywed " (ebe Dr. Thomas), "am John Jones, Rhoscolyn, yn pregethu ar y geiriau hynny: 'Wele Israeliad yn wir yn yr hwn nid oes dwyll.' Yr oedd rhywun yn eistedd ochr Israel Matthew, a dywedodd wrtho, 'Dim ond tipyn wrth werthu glô, ynte, Israel'!"

Adroddir bod i Israel Matthew berthynas—nid ydym yn sicr a'i mab iddo—a elwid Shon Matthew, ac oedd delynor. Proffesai y gŵr hwn ei hun yn anffyddiwr. Ymwelai yn fynych â'r dref, a pharai ofid dirfawr i'r eglwys oherwydd ei gabledd, a'i fod yn codi cwestiynau ac yn peri amheuon, a llawer o'r Cymry yn dilyn ar ei ôl i'r tafarnau, i'w wrando yn canu maswedd. Daeth John Elias i'r dref, a gosodwyd achos y telynor ger ei fron. Pregethai Elias yng nghapel Pall Mall

  1. Llwyddodd y Parch. Richard Matthews, Nebo, Môn, sydd o linach Israel Matthew, i ddyfod o hyd i gofnodiad ei gladdedigaeth yng Nghofrestr Eglwys Blwyfol Rhos-colyn: "Israel Matthew: abode Holyhead; buried April 26, 1847; 96 years of age." Gwelir felly ei eni yn 1751, a buasai yn un ar ddeg ar hugain oed yr adeg y cynhaliwyd y cyfarfod gweddi yn nhŷ William Llwyd.