Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y Llynges, a glwyfwyd yn dost mewn brwydr, ac wedi ei droedigaeth a ddechreuodd bregethu. Tynnai ei bregethau syml ac efengylaidd dyrfaoedd mawr i'w wrando bob Saboth.[1] Ni roddid i Grace Lewis, fodd bynnag, lawn freintiau yr eglwys heb iddi gymryd ei bedyddio drwy drochiad, a hynny a wnaed. Dywaid Pedr Fardd i hyn ddigwydd "dri Sabath yn gymwys cyn y Sabath y dechreuodd y Calfiniaid Cymreig gynnal cyfarfodydd crefyddol yn nhy William Llwyd." Wedi clywed am y Cymry yn cydymgynnull yno, aeth atynt, ac er i "beth gwrthwynebiad gael ei ddangos oherwydd iddi ymuno â'r Bedyddwyr, derbyniwyd hi i'r Gymdeithas Fethodistaidd." Ymddengys iddi barhau ei haelodaeth yn y ddau le hyd ddiwedd ei hoes, "a pherchid hi yn fawr gan ei brodyr yn y ddwy eglwys." Bu farw yn y flwyddyn 1793, a chladdwyd hi yn y Fynwent oedd y pryd hwnnw yn gysylltiedig â chapel y Bedyddwyr-capel Dr. Fabius—ar gongl Everton Road, y Parch. Samuel Medley yn gwasanaethu.[2] Crybwyll Corfannydd am un ferch arall a gyd-addolai am ryw dymor â'r cwmni bychan yn nhŷ William Llwyd,— Rachel Hughes, gwraig weddw a ddaeth yn ddiweddarach yn briod â Phedr Fardd."[3]

Yn bur fuan wedi i'r Cymry ddechrau cyd-gyfarfod yn nhŷ William Llwyd, digwyddodd "hen bregethwr o Fôn" ddyfod i'r dref ynglŷn â masnach oedd ganddo. Cyfarfu yn ddam-

  1. Bu Mr. Medley yn pregethu yng Nghymanfa'r Bedyddwyr yng Nglyn Ceiriog yn 1779. Cyfieithwyd ei bregeth i'r Gymraeg gan T. Philips, Caerlleon-ar-Wysg.—Joseph Davies, "Bedyddwyr Cymreig Glannau'r Mersi," t.d. 13.
  2. Dywaid "Methodistiaeth Cymru " mai yn y Necropolis y claddwyd hi. Ni all hynny fod yn gywir, oherwydd ni agorwyd y gladdfa honno hyd y flwyddyn 1825. Mewn llythyr yn" Y Brython," Gorffennaf, 1915, dywaid y diweddar Evan Owen, oedd swyddog yn eglwys y Bedyddwyr, Everton Village, nad yw enw Grace Lewis yn rhestr y bedyddiadau yn hen eglwys Byrom Street. Ceir enw un Grace Rowlands, a fedyddiwyd Mehefin 20, 1783. Os yr un person a olygir, ond bod ei henw wedi ei newid drwy briodas, ac os cywir hefyd yr hyn a ddywaid Pedr Fardd i'w bedydd ddigwydd dri Saboth cyn y cyfarfod cyntaf yn nhŷ William Llwyd, rhaid ddarfod i'r cyfarfod hwnnw gael ei gynnal ar y 30ain o Fai, 1783, ac nid yn ystod 1782 fel yr arferir credu. Ni cheir cofnodiad ychwaith o gladdedigaeth yr un o'r enw Grace Lewis, ond claddwyd Grace Rowlands ym Mynwent Fabius, Tachwedd 16eg, 1795, oddeutu dwy flynedd yn ddiweddarach na'r flwyddyn a nodir gan Bedr Fardd a "Methodistiaeth Cymru" fel adeg marwolaeth Grace Lewis. Credwn gan hynny ei fod yn amhosibl mai yr un oedd Grace Rowlands a Grace Lewis.
  3. "Y Tyst Cymreig," Tach. 6, 1868.