Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weiniol â William Llwyd, a dywedodd bod rhyw "gymhelliad anghyffredinol ar ei feddwl am gael pregethu un bregeth i'w gyd-wladwyr y Cymry," a drigent ymysg estroniaid. Derbyniodd William Llwyd ei gynnig yn llawen, ac aeth ef ei hunan, ac un neu ddau eraill, o amgylch y dref i wahodd y Cymry i wrando'r bregeth Gymraeg nos drannoeth. Hon, mae'n debygol, oedd y bregeth gyntaf a drefnwyd gan y Methodistiaid fel y cyfryw yn y dref, oblegid er mai pregethwr gyda'r Methodistiaid ydoedd Owen Tomos Rolant, eto yng nghapel y Wesleaid y pregethai, a hynny cyn bod un ymgais i ffurfio achos Cymraeg. Cyfeiria Evan Roberts, Dinbych, at yr oedfa, ond dywaid ef, yn wahanol i eraill a gyfeiriant ati, mai "o Sir Gaernarfon yr oedd y pregethwr. "Aethum i'w wrando (dywaid), a chefais gysur mawr wrth glywed yr Efengyl yn cael ei phregethu yn yr iaith Gymraeg."

Nid yn hir y bu yr ychydig nifer a ymgasglent at ei gilydd i gyd-weddïo, heb sefydlu cyfarfod eglwysig, ac ymgorffori yn eglwys. Pedwar neu bump, hyd y gellir casglu, ydoedd nifer yr aelodau eglwysig pan yr ymgorfforasant yn eglwys yn nhŷ William Llwyd.[1] Ni feddwn wybodaeth am ddyddiad corfforiad yr eglwys. Dywaid Pedr Fardd i hynny ddigwydd "yn fuan wedi dechrau cynnal cyfarfodydd crefyddol cyhoedd." Ymddengys hefyd mai yr un adeg y galwodd yr eglwys William Llwyd yn flaenor iddi. Cododd awydd yn awr ymysg yr aelodau am gael mwynhau rhagorfreintiau eglwys i Grist, yn arbennig gweinidogaeth gyson y Gair. Eu cymdogion agosaf, a'r rhai tebycaf o allu eu cynorthwyo, oedd eglwysi Sir Fflint; ond taith anodd, a chostus, a lled beryglus hefyd y pryd hwnnw, oedd y daith hyd yn oed o Sir Fflint i Liverpool. Ac nid oedd nifer yr eglwys a'r gynulleidfa ond bychan, a'u hamgylchiadau yn dlodaidd. Er hynny anturiasant anfon William Llwyd i osod eu hachos gerbron Cyfarfod Misol Sir Fflint a Sir Ddinbych, yr hwn, y pryd hynny, oedd un Cyfarfod Misol. Gwyddai rhai o'r brodyr yno eu hanes,—hanes y gorthrwm a ddioddefasent, hanes eu halltudiaeth i fysg estroniaid, a hanes eu ffyddlondeb yno, a'u hiraeth am gyfleusterau i addoli Duw yn eu

  1. Gwel ysgrif Samuel Jones yn "Y Drysorfa," 1863, t.d. 418.