hiaith eu hunain. Cyffyrddodd yr apêl yn ebrwydd â chalon y frawdoliaeth, a phenderfynwyd trefnu bod i eglwys fechan Liverpool gael pregethwr bob trydydd Saboth i'w gwasanaethu. Enwyd y tri a ganlyn i fyned yno ar gylch, hyd y gallent: Humphrey Owen, o'r Berthen Gron; William Davies, y Golch; a Robert Prys, Plas Winter. Gan mai dyma'r pregethwyr cyntaf a wasanaethodd yr achos yn rheolaidd yn Liverpool, credwn nad anniddorol a fydd yr ychydig fanylion a ganlyn o'u hanes.
Yn ôl adroddiad Pedr Fardd, y cyntaf o'r tri i roddi ei wasanaeth oedd Humphrey Owen. Brawd oedd ef i John Owen, y Berthen Gron, at yr hwn y cyfeiriwyd eisoes fel " Tad Methodistiaeth Sir Fflint." Y ddau frawd, John a Humphrey Owen, oedd pregethwyr cyntaf y Methodistiaid yn y Sir honno. Ni wyddis i sicrwydd pa bryd yr ymunodd Humphrey Owen â'r Methodistiaid, ond tybir mai drwy weinidogaeth "un o'r cewri o'r De," a ddaeth ar daith i'r Gogledd, yr argyhoeddwyd ef. Gŵr ydoedd o gymeriad cadarn, a dioddefodd, fel ei frawd, erledigaeth ffyrnig heb ildio dim. Byddai'r cynulleidfaoedd bychain bob amser yn llawen o gael ei wasanaeth oherwydd ei fod yn gantwr gwych, yn meddu ar lais da a swynol, ac ef, bron yn ddieithriad, a arweiniai y canu lle bynnag y pregethai. Teithiodd lawer. Adroddir amdano yn pregethu yn nhref Conwy ar yr heol agored, oherwydd nid oedd gapel y pryd hwnnw o fewn i'r holl dref. Ar ganol y bregeth daeth cwnstabl ato, gan fyned ag ef at berson y plwyf, yr hwn oedd hefyd yn Ynad. "Beth ydyw'r achos," gofynnai'r clerigwr yn ffromllyd, "eich bod chwi a'ch bath yn dyfod ar draws gwlad i aflonyddu'r bobl?" Atebodd Humphrey Owen yn dawel nad oedd dim aflonyddwch nes daeth y cwnstabl a anfonasai ef i'w ddal. "A fedrwch chwi Roeg?" gofynnai'r gŵr parchedig. "Yn wir, syr," oedd yr ateb hunan-feddiannol; "mae'n dda gen i fod Iesu Grist yn deall Cymraeg yn iawn, ac yn Gymraeg yr oeddwn i yn llefaru!" I geisio dychryn y pregethwr tlawd, galwodd y person ar yr heddgeidwad: "Gwna dy hun yn barod i fynd a'r dyn yma i Gaernarfon, a rho ef yn nwylaw y press-gang!" Aeth y ddau ymaith gan adael y pregethwr ei hunan. Disgwyliai'r offeiriad