Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y buasai'n llefain am drugaredd, ac yn addo na "throseddai byth yn rhagor. Wedi disgwyl cryn amser am y gyffes edi- feiriol ac heb ei chael, anfonodd y swyddog ato gyda'r genad- wri: "Mae fy meistr yn dweud y gelli fyn'd yrwan!" Ond yr oedd Humphrey Owen o ysbryd ry annibynnol i fyned felly: "Na, dywed wrth dy feistr y rhaid iddo ddyfod ei hun i'm gollwng i yn rhydd!" A hynny a fu. Bu farw yn y flwyddyn 1796, pan oddeutu trigain oed. Yn ei wylnos, pan roddwyd i'w ganu y pennill—

"O gwyn ei byd y dyrfa
Sy'n canu Haleliwia,
Cawn ninnau ddianc cyn bo hir
I mewn i'r wir orffwysfa," etc.

torrodd yn orfoledd mawr. Claddwyd ef ym mynwent Ysgeifiog, yn ymyl ei frawd, a fuasai farw ugain mlynedd o'i flaen.

Gŵr syml, gwanaidd, bychan o gorffolaeth, oedd William Davies, y Golch, yr ail o'r pregethwyr a drefnasid i wasanaethu yn y dref. Saif y Golch oddeutu dwy filltir o Dreffynnon. Dywedir roddi yr enw yma ar y lle oherwydd mai yno yr arferid "golchi" y plwm. Gwehydd, tlodaidd iawn ei amgylchiadau, oedd William Davies, a bregus ei iechyd. Cyfyng oedd ei wybodaeth, ac eiddil ei ddawn; ond ni bu was ffyddlonach erioed i'r Achos Mawr. Er ei fynych nychdod bu fyw i gyrraedd oedran mawr,—chwech a phedwar ugain mlwydd, a bu'n pregethu'n gyson am bymtheng mlynedd a deugain. Yn gyffelyb i bregethwyr eraill ei ddydd, cadd ei ran yn helaeth o erlidiau; lluchid ato dom a cherrig, a braidd y diangodd a'i einioes lawer tro. Tra'n gwasanaethu yn Liverpool ar un Saboth yn y flwyddyn 1788, clywodd ddarllen llythyr a anfonasid o Manchester yn hysbysu am ddymuniad yr ychydig Gymry oedd yno i gael pregethiad o'r Efengyl yn Gymraeg. Ymddengys bod gŵr o'r enw Edward Jones, brodor o gymdogaeth Amlwch, Sir Fôn, a fu am beth amser yn byw yn Liverpool, ac a ymunasai â'r ychydig ddisgyblion a gyfarfuent yn nhŷ William Llwyd, wedi symud i Manchester. Yno daeth i gyffyrddiad ag eraill o'i gyd-genedl, a diau i'w adroddiad am