Tudalen:Hanes Methodistiaeth Liverpool Cyf I.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddechreuad Achos Cymraeg yn Liverpool godi awydd yn y Cymry oedd ym Manchester am gael yr un fraint. Anfonodd Edward Jones, gan hynny, lythyr at ei hen gyfeillion yn Liverpool, yn gofyn am eu cyfarwyddid a'u cymorth. Digwyddodd mai William Davies a wasanaethai yn y dref y Saboth hwnnw. Cynigiodd fyned yno yn ddioedi, gan gerdded, fel mae'n debyg, y rhan fwyaf o'r ffordd, os nad y cyfan ohoni. Ac i'r gwehydd tlawd hwn y rhoddwyd y fraint o bregethu yr Efengyl gyntaf yn Gymraeg o fewn i dref Manchester. Bu farw yn y flwyddyn 1822.

Gŵr o Sir Gaernarfon ydoedd Robert Prys, y trydydd o'r pregethwyr a enwyd. Yn fore yn ei hanes symudodd ei deulu i fyw i Blas Winter, yn Sir Fflint, heb fod nepell o'r Berthen. Disgrifir ef fel dyn nodedig o anolygus,-tal, afrosgo ei symudiadau, a hollol ddiofal o'i ymddangosiad allanol. Meddai ar lais crynedig a thra anhyfryd i'r glust; siaradai yn undonog a blinderus i wrando arno. Amherffaith iawn oedd ei ddirnadaeth o athrawiaethau crefydd; yn wir dywedid na wyddai am ragor na dau bwnc,—" y cwmp yn Adda, a'r codiad yng Nghrist." Er hyn i gyd, dywedir iddo gael rhai oedfeuon nerthol. Dychwelwyd deg ar hugain mewn un oedfa iddo yn Nhanyfron, Llansannan. Cynhaliai foddion crefyddol am dymor yn ei dŷ ym Mhlas Winter. Oddiwrth yr hanes a adroddir amdano amlwg yw bod ei ofal am eneidiau ei gyd-ddynion yn llawer mwy na'i ofal am ei ffarm. Trefnwyd oedfa un bore Saboth am naw o'r gloch, a'r pregethwr oedd Thomas Jones o Gaerwys—Thomas Jones, Dinbych, yn ddiweddarach,—oedd ar y pryd yn wr ieuanc, main a llwyd ei wedd. Golwg tra anymunol oedd ar yr amaethdy pan gyrhaeddodd y pregethwr,—y buarth dan gnwd tew o dail; y tŷ a'i ddodrefn garw, cyffredin, ar draws ei gilydd; y gŵr a'r wraig heb arwyddion amlwg o lanweithdra ar eu personau. Cyfarchodd Robert Prys y pregethwr yn ddi-seremoni: "Wel, Tom Jones, a ddoist ti,—i ddeud gair wrth y bobol yma?" Ar ôl yr oedfa, daeth amser cinio. Dygwyd i'r bwrdd leg of mutton, wedi ei halltu, yn galed, a du fel het," torth o fara haidd caled,—honno, drachefn, cyn ddued a thelpyn o lô; tatws, melyn eu lliw, ac afrywiog; ymenyn, a lympiau o halen bras i'w gweled